Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae 2024, bu swyddogion Menter Môn yn sgwrsio gyda busnesau a sefydliadau lleol er mwyn eu hannog i ymuno â chynllun ‘Hapus i Siarad’.
Mae’r ymgyrch, sy’n bartneriaeth rhwng Mentrau Iaith Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn cynnig cymorth ac adnoddau i siopau a busnesau bach lle mae aelod o staff yn siarad Cymraeg. Wedi cynllun peilot llwyddiannus yn siroedd Rhondda Cynon Taf, Ceredigion a Fflint a Wrecsam yn gynharach eleni, mae busnesau trwy Gymru gyfan bellach yn cael cyfle i ymuno â’r cynllun ac arddangos poster sy’n dangos eu bod yn ‘hapus i siarad’ Cymraeg â’u cwsmeriaid. Mae’r pecyn adnoddau hefyd yn cynnwys bathodynnau a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder.
Bydd dysgwyr, sy’n dilyn cyrsiau gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn derbyn cardiau er mwyn casglu stampiau wrth sgwrsio yn Gymraeg gyda staff. Bydd y rhai sy’n llenwi’r cerdyn a’i ddychwelyd at eu tiwtoriaid cyn diwedd mis Mawrth 2025 yn cael cyfle i ennill penwythnos preswyl i ymarfer neu wella eu Cymraeg.
Mae croeso i berchnogion busnes gysylltu â Menter Môn er mwyn ymuno â’r cynllun.
Pwy sy’n ‘Hapus i Siarad’ yn ein hardal ni?
1. Tlysau Cefni
2. Gwalia
3. Siop Cain
4. Williams a Goodwin
5. Cigyddion J Thomas & Sons
6. Wild Fern
7. Barbwr Môn
8. Swyddfa Plaid Cymru
Ydych chi’n gwybod am fwy o fusnesau a sefydliadau fyddai’n hoffi ymuno? Cysylltwch â iaith@mentermon.com