Helfa’r Hydref ym Mro Esceifiog

Cymerodd 40 o geir ran yn yr helfa o amgylch yr ardal

Llifon Jones
gan Llifon Jones
bcbf852e-c1bf-4fd3-a152

Llun: Catrin Alaw

f8997ac0-24bc-42d8-a774

Y trefnwyr! (Llun: Catrin Alaw)

Ar bnawn dydd Sul 15 Medi, cynhaliwyd Helfa Drysor ym Mro Esceifiog er budd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026. Roedd hi wedi bod yn stido bwrw drwy’r dydd ond erbyn i’r helfa ddechrau oddeutu 4pm, fe ddaeth 40 o geir i gymryd rhan.

Y man cychwyn oedd Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel; cyn ymlwybro i gyfeiriad Bodlew, heibio Pont Fyfyrian i’r lôn rhwng Pentre Berw a Llangaffo, ac yna nôl i Gaerwen. Diwedd y daith oedd Ysgol Esceifiog, lle roedd paned a theisen yn disgwyl pawb. Roedd raffl a nwyddau’r Urdd hefyd ar werth ac fe wnaed elw bach del o bron i £700.

Yr enillwyr oedd Carwyn ac Emma Owen a’r teulu o Gaerwen. Llongyfarchiadadau iddyn nhw!

Diolch i bawb wnaeth gefnogi ac i Mared Yaxley, Manon Glyn Jones a Catrin Alaw am drefnu ac i’r rhai oedd yn barod hefo’r banad yn Ysgol Esceifiog!

Ein digwyddiad nesaf fel pwyllgor fydd Noson Creu Gorchudd Lamp hefo Crefftau Gelli ar nos Iau 17 Hydref yn Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel am 7pm. Mae mynediad am ddim ond fe geir paned a raffl ar y noson. Os oes gennych ddiddordeb, ffoniwch Llifon Jones ar 01248 422573 neu anfonwch neges at dudalen Facebook y pwyllgor.