Neithiwr, cynhaliwyd seremoni wobrwyo y ‘National Television Awards’ yn yr O2 yn Llundain a hynny am y nawfed gwaith ar hugain.
Dyma seremoni flynyddol sy’n dathlu’r goreuon o fyd y sgrîn fach a bu i sawl wyneb enwog gamu ar y llwyfan neithiwr i gyflwyno neu dderbyn gwobr gan gynnwys Ant a Dec, Davina McCall, Tess Daily, Claudia Winkleman, Kaleb Cooper, Mary Berry a llawer mwy!
Ond….pwy hawliodd ein sylw ni’r gwylwyr, fwy na neb, yma ym Môn a Chymru gyfan? Neb llai na Mr Noel Thomas, cyn is-bostfeistr y Gaerwen a ffrind i nifer ohonom.
Braf oedd gweld Noel, ei wraig, Mrs Eira Thomas a’i ferch Sian yn derbyn clod ac anrhydedd am eu gwaith a’i cysylltiad allweddol gyda’r gyfres ITV ddiweddar ‘Mr Bates and the Post Office’.
Dyma gyfres chwyldroadol y bu i filiynau eu gwylio eleni, a chyfres sydd wedi gadael ei farc ar y genedl – cenedl sydd bellach yn ymwybodol o’r anghyfiawnder wnaethpwyd â channoedd o is-bostfeistri Prydain dan orthrwm y Swyddfa Bost.
Bu i’r gyfres gipio tair gwobr neithiwr – Y Ddrama Newydd Orau, Gwobr ‘Impact’ am effaith dirdynol y gyfres ar y cyhoedd a llongyfarchiadau hefyd i’r actor amryddawn Toby Jones am y Perffomiad Gorau mewn Drama am ei rôl yn portreadu Syr Alan Bates, arweinydd y grŵp ‘Justice for Sub-postmasters’.
Diolchodd Toby Jones i’r is-bostfeistri a’u teuluoedd am rannu eu straeon gydag yntau, y cast a’r tîm cynhyrchu ac yn wir, cenadwri cyffredinol actorion y ddrama o’r llwyfan oedd mae anrhydedd llwyr fu portreadu’r is-bostfeistri mewn cyfres ddrama oedd yn taflu goleuni ar y cam enbyd mae’r is-bostfeistri a’u teuluoedd wedi ei brofi.
Camodd Jo Hamilton, cyn is-bostfeistr arall ymlaen i gyfarch y dorf gan dderbyn cefnogaeth chwyrn wrth iddi ddatgan fod y brwydro’n parhau i’r is-bostfeistri dderbyn yr iawndal sy’n ddyledus.
Ond, yng ngeiriau Jo, mae gan Mr Bates gynllun, a phan fydd yn galw am gefnogaeth y cyhoeddi, plis byddwch yn barod i’w gefnogi. Sicrwydd yw dweud o ymateb y dorf…fe fyddwn yn barod.
Llongyfarchiadau unwaith eto i Mr Noel Thomas – ein Noel ni, ar ei holl anrhydeddau eleni, o gael ei urddo i’r wisg las i sŵn bonllefau’r gynulleidfa ym Mhontypridd, i gael ei anrhydeddu gan Brifysgol Cymru Bangor am ei waith di-flino wrth wynebu Goliath dros y blynyddoedd a chwffio tros gyfiawnder a’r gwirionedd.
Smart iawn oedd y teulu bach neithiwr, ac urddasol a diymhongar yn ôl yr arfer. Emosiynol iawn oedd i ni eu gwylio ysgwydd yn ysgwydd ag actorion mawr y sgrîn gan gynnwys Ifan Huw Dafydd, yr actor a fu’n portreu stori Noel mor arbennig.
Mwynhewch y clod haeddiannol!