Heddiw (dydd Mawrth 13 Awst 2024) mewn seremoni arbennig ar faes Sioe Sir Fôn, cyhoeddodd Bwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 mai Ellie Jones, 20 oed o Dalwrn ger Llangefni yw enillydd cystadleuaeth dylunio logo swyddogol yr ŵyl.
Meddai Manon Wyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith: “Diolch o galon i’r dros 900 o blant a phobl ifanc aeth ati i ymgeisio yng nghystadleuaeth dylunio logo ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026! Roeddem fel pwyllgor wrth ein boddau fod cymaint wedi cymryd rhan.
“Bu’r Pwyllgor Celf yn brysur yn beirniadu a phleser yw cyhoeddi mai dylunydd y logo buddugol yw Ellie Jones o Dalwrn. Bydd logo Ellie i’w weld ar holl nwyddau hyrwyddo’r Eisteddfod – yn hwdis a chrysau-T, capiau haul, poteli dŵr, bagiau a phob math o nwyddau eraill. Llongyfarchiadau calonnog iddi!
“Mae’r paratoadau ar gyfer yr ŵyl wedi hen ddechrau. Mae testunau wedi eu dewis, y pwyllgorau apêl wedi eu sefydlu a gweithgareddau codi arian yn cael eu cynnal ledled yr Ynys. Diolch i bawb am eu gwaith a’u hamser i sicrhau y bydd Eisteddfod 2026 yn chwip o Eisteddfod!”
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd yr Urdd mai Cae Sioe Môn ger Gwalchmai, Ynys Môn fydd lleoliad Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn (25-31 Mai 2026). Mae ugain mlynedd a mwy ers i ŵyl ieuenctid mwyaf Ewrop gael ei chynnal ar y Fam Ynys (2004).
Mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd yn galw am wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’r gwaith paratoi dros y ddwy flynedd nesaf. Os hoffai unrhyw un ymuno â phwyllgor apêl yn eu hardal, neu bwyllgor celfyddydol (i drafod y sioeau, cymanfa, oedfa a’r ŵyl gyhoeddi) mae gwybodaeth bellach ar gael yma.