Cyfrif yr Etholiad Cyffredinol – Ynys Mon

Pob datblygiad o’r cyfrif ym Mhlas Arthur, Llangefni.

gan Owain Siôn

Mae’r ymgyrchu ar ben, pob blwch pleidleisio wedi cau a phob papur ar ei ffordd yma i Langefni. Gyda’r arolwg ymadael yn dangos Llafur 209 sedd ar y blaen o’r Ceidwadwyr, mae pob llygad nawr yn troi at yr etholaethau lleol i weld a yw hyn yn wir ac a fydd y wlad yn deffro i blaid newydd mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 2010. Yma ar Ynys Môn, mae 3 ymgeisydd i weld yn obeithiol o gymryd y sedd sydd wedi bod yn nwylo Virginia Crosbie ers 2019. Ymunwch â ni wrth i ni eich tywys trwy pob sï, pob diweddariad… a phob byrbryd amrywiol.

00:51

DIWEDDARIAD

Ddim cweit yn Elvis, ond mae Ieuan Môn Williams in the house.

00:41

Os oes diddordeb gennych chi mewn sut mae pethau’n mynd y tu hwnt i’r Ynys, ewch i flog byw golwg360 lle cewch glywed y sylwebaeth a’r sïon ar draws Cymru a thu hwnt.

00:24

Difyr iawn!

turnout i lawr bron i 9% ar 2019, er bod yr arolygon yn dangos canlyniadau syfrdanol ar draws y wlad.

Beth all hyn olygu i’r ynys?

  • Bod pobl yn hapus fel y mae hi yma, a bod hi am fod yn noson gwell i Virginia Crosbie na’r disgwyl?
  • Bod pobl wedi cymryd yr arolygon yn ganiataol ac yn disgwyl pobl eraill i bleidleisio am lywodraeth Lafur ar eu rhan – gan o bosib agor y drws i ffyddloniaid Plaid Cymru neu’r Ceidwadwyr?
  • Bod yna ddiffyg cyffro, diddordeb ac angerdd ar hyd yr etholaeth dros wleidyddiaeth etholaethol?

Mae hyn yn gadael ni’n hollol agored i ddarogan canlyniad rhwng y 3 sydd ar y blaen.

00:09

YMDDANGOSIAD – 61.55%

00:03

DIWEDDARIAD

Y gwirio wedi gorffen, y blychau didoli allan.

Dim arwydd o ennill cryf gan neb ar hyn o bryd.

Llio Davies
Llio Davies

Unrhyw syniad pryd fydd y canlyniad? 🤔

Owain Siôn
Owain Siôn

Cychwyn y cyfri yn y munudau nesaf. 3:00AM oedd yr amcangyfrif gan y cyfryngau yn gynharach heddiw.

Mae’r sylwadau wedi cau.

23:55

Gornest y Goodies

Reit, beth am gychwyn ar gwir bencampwriaeth y noson – y snacks. Rhwng craffu ar wynebau ymgeiswyr ar lawr y cyfrif, a chadw llygad barcud ar yr arolygon barn, dwi wedi holi ar hyd galeri’r wasg beth sydd yn cadw nhw fynd heno. Dyma flas o’r tri cyntaf:

Y Press Association

Bananas, Flapjacks, Brownies, Dŵr a Tê.

ITV Cymru

Digestives, Mentos a Coffi.

ITN

Red Bull a Jakemans – ma nhw’n hardcore yn ITN!

Ac wrth gwrs, y spread aruthrol sydd yn y llun uchod yw fy nghynnig i ar gyfer y noson – diolch i Rhys (ar y blog cenedlaethol) am gynnig diawl o ddim!

Rhowch wybod yn y sylwadau pwy sydd ar y blaen.

Tes Hughes
Tes Hughes

ITV yn solid.

Mae’r sylwadau wedi cau.

23:18

DIWEDDARIAD

Y sï ar y balconi yw na fydd Virginia Crosbie yn gwneud cyfweliadau heno.

Bosib iawn y cawn glywed gan Llinos Medi yn yr oriau nesaf.

Ieuan Môn Williams dal heb gyrraedd.

Dim ond awr sydd wedi bod, a mai’n poethi yma!

Bethan Williams
Bethan Williams

Ydi Ieuan wedi cyrraedd bellach?

Owain Siôn
Owain Siôn

Dal dim Ieuan…

Bethan Williams
Bethan Williams

🤨 Dio’n iawn ’dwch?

Mae’r sylwadau wedi cau.

23:15

Wedi cael cadarnhad gan staff Plas Arthur – y bocsys i gyd wedi cyrraedd. Croeso i ddiwrnod Dolig yr anoracs gwleidyddol!

23:04

Yr Arolwg Ymadael

Awr ar ôl i’r blychau gau, beth am gymryd golwg ar yr arolwg ymadael, fydd yn rhoi’r syniad gorau i ni o fap gwleidyddol y DU bore fory. 

Yn ôl S4C, mae gwaith Ipsos yn dangos mwyafrif “ysgubol” i Lafur yn Nhŷ’r Cyffredin:

Llafur – 410

Y Ceidwadwyr  – 131

Y Democratiaid Rhyddfrydol – 61

Reform – 13

Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) – 10

Plaid Cymru – 4

Y Blaid Werdd – 2

Eraill – 19

Beth sydd yn nodweddiadol am yr arolwg yma, yn benodol ar gyfer Ynys Môn, yw’r 4 sedd yna i Blaid Cymru (sydd i fyny 2 o etholiad 2019). Mae’n amlwg (cywirwch fi, Sion a Lowri!) bod Ceredigion Preseli a Dwyfor Meirionydd am fod yn 2 eithaf diogel i’r Blaid, ond eu targedau pennaf eleni oedd Caerfyrddin a Môn – arwydd o lwyddiant neu sioc sylweddol yn Llanelli neu Bangor Aberconwy?

Mae’r Ceidwadwyr yn debygol o golli 241 sedd heno – ai yma fydd un ohonyn nhw? Yntau a yw’r bleidlais bersonol i Virginia Crosbie yn gallu goresgyn teimladau cyffredinol y wlad tuag y blaid genedlaethol?

22:37

Y Gofrestr

Fel mae’r gwirio yn prysuro, dim ond 3 ymgeisydd sydd i’w weld ar lawr y cyfrif ar hyn o bryd:

  • Virginia Crosbie o’r Ceidwadwyr, yn amddiffyn ei sedd.
  • Llinos Medi o Blaid Cymru.
  • Sir Grumpus L. Shorticus ar y Monster Raving Loony Party.

Ydi hyn yn arwydd o hyder neu bryder gan y 3? Beth mae Sir Grumpus yn ei wybod nad ydym ni? 

Mae 5 arall yn cystadlu yma ym Môn:

  • Leena Farhat – Y Democratiaid Rhyddfrydol
  • Emmett Jenner – Reform UK
  • Martin Schwaller – Y Blaid Werdd
  • Ieuan Williams – Llafur
  • Sam Wood – Libertarian Party

Cawn weld os y bydden nhw’n ymuno â ni hwyrach ymlaen, ond mae llygaid eu timau wedi eu hoelio ar y papurau ar hyn o bryd ta waeth. 

Owain Siôn
Owain Siôn

Leena Farhat yn bresennol!

Owain Siôn
Owain Siôn

Emmett Jenner a Reform yn bresennol!

Mae’r sylwadau wedi cau.