Leena Farhat yn bresennol!
Mae’r ymgyrchu ar ben, pob blwch pleidleisio wedi cau a phob papur ar ei ffordd yma i Langefni. Gyda’r arolwg ymadael yn dangos Llafur 209 sedd ar y blaen o’r Ceidwadwyr, mae pob llygad nawr yn troi at yr etholaethau lleol i weld a yw hyn yn wir ac a fydd y wlad yn deffro i blaid newydd mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 2010. Yma ar Ynys Môn, mae 3 ymgeisydd i weld yn obeithiol o gymryd y sedd sydd wedi bod yn nwylo Virginia Crosbie ers 2019. Ymunwch â ni wrth i ni eich tywys trwy pob sï, pob diweddariad… a phob byrbryd amrywiol.
Y Gofrestr
Fel mae’r gwirio yn prysuro, dim ond 3 ymgeisydd sydd i’w weld ar lawr y cyfrif ar hyn o bryd:
- Virginia Crosbie o’r Ceidwadwyr, yn amddiffyn ei sedd.
- Llinos Medi o Blaid Cymru.
- Sir Grumpus L. Shorticus ar y Monster Raving Loony Party.
Ydi hyn yn arwydd o hyder neu bryder gan y 3? Beth mae Sir Grumpus yn ei wybod nad ydym ni?
Mae 5 arall yn cystadlu yma ym Môn:
- Leena Farhat – Y Democratiaid Rhyddfrydol
- Emmett Jenner – Reform UK
- Martin Schwaller – Y Blaid Werdd
- Ieuan Williams – Llafur
- Sam Wood – Libertarian Party
Cawn weld os y bydden nhw’n ymuno â ni hwyrach ymlaen, ond mae llygaid eu timau wedi eu hoelio ar y papurau ar hyn o bryd ta waeth.
Croeso
Mae’r bocs cyntaf yn ein cyrraedd ni yma ym Mhlas Arthur. Gwirio pleidleisiau fydd y job gyntaf wrth gwrs, ond gyda llygaid barcud yr asiantau cyfrif o bob plaid, gobeithio y cawn ni rhyw hanner syniad o bwy sydd yn edrych yn hyderus a phwy fydd yn mynd am baned a bath cynnar. Ond yn sicr, fydda i a thîm Golwg360 yma gyda chi tan y diwedd un.
Trwy gydol y nos, byddwn yn dod a cyfweliadau, sylwadau ac unrhyw arsylwad o bwys wrth i chi setlo fewn i beth all fod yn noson etholiad hanesyddol.
Ac wrth gwrs, os ydych chi eisiau ymuno â’r drafodaeth, peidiwch oedi rhag gadael sylwad ar waelod unrhyw ddiweddariad. Yn bennaf, gadewch i ni wybod pa snacks sy’n cadw chi fynd heno…