Cyfrif yr Etholiad Cyffredinol – Ynys Mon

Pob datblygiad o’r cyfrif ym Mhlas Arthur, Llangefni.

gan Owain Siôn

Mae’r ymgyrchu ar ben, pob blwch pleidleisio wedi cau a phob papur ar ei ffordd yma i Langefni. Gyda’r arolwg ymadael yn dangos Llafur 209 sedd ar y blaen o’r Ceidwadwyr, mae pob llygad nawr yn troi at yr etholaethau lleol i weld a yw hyn yn wir ac a fydd y wlad yn deffro i blaid newydd mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 2010. Yma ar Ynys Môn, mae 3 ymgeisydd i weld yn obeithiol o gymryd y sedd sydd wedi bod yn nwylo Virginia Crosbie ers 2019. Ymunwch â ni wrth i ni eich tywys trwy pob sï, pob diweddariad… a phob byrbryd amrywiol.

23:04

Yr Arolwg Ymadael

Awr ar ôl i’r blychau gau, beth am gymryd golwg ar yr arolwg ymadael, fydd yn rhoi’r syniad gorau i ni o fap gwleidyddol y DU bore fory. 

Yn ôl S4C, mae gwaith Ipsos yn dangos mwyafrif “ysgubol” i Lafur yn Nhŷ’r Cyffredin:

Llafur – 410

Y Ceidwadwyr  – 131

Y Democratiaid Rhyddfrydol – 61

Reform – 13

Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) – 10

Plaid Cymru – 4

Y Blaid Werdd – 2

Eraill – 19

Beth sydd yn nodweddiadol am yr arolwg yma, yn benodol ar gyfer Ynys Môn, yw’r 4 sedd yna i Blaid Cymru (sydd i fyny 2 o etholiad 2019). Mae’n amlwg (cywirwch fi, Sion a Lowri!) bod Ceredigion Preseli a Dwyfor Meirionydd am fod yn 2 eithaf diogel i’r Blaid, ond eu targedau pennaf eleni oedd Caerfyrddin a Môn – arwydd o lwyddiant neu sioc sylweddol yn Llanelli neu Bangor Aberconwy?

Mae’r Ceidwadwyr yn debygol o golli 241 sedd heno – ai yma fydd un ohonyn nhw? Yntau a yw’r bleidlais bersonol i Virginia Crosbie yn gallu goresgyn teimladau cyffredinol y wlad tuag y blaid genedlaethol?

22:37

Y Gofrestr

Fel mae’r gwirio yn prysuro, dim ond 3 ymgeisydd sydd i’w weld ar lawr y cyfrif ar hyn o bryd:

  • Virginia Crosbie o’r Ceidwadwyr, yn amddiffyn ei sedd.
  • Llinos Medi o Blaid Cymru.
  • Sir Grumpus L. Shorticus ar y Monster Raving Loony Party.

Ydi hyn yn arwydd o hyder neu bryder gan y 3? Beth mae Sir Grumpus yn ei wybod nad ydym ni? 

Mae 5 arall yn cystadlu yma ym Môn:

  • Leena Farhat – Y Democratiaid Rhyddfrydol
  • Emmett Jenner – Reform UK
  • Martin Schwaller – Y Blaid Werdd
  • Ieuan Williams – Llafur
  • Sam Wood – Libertarian Party

Cawn weld os y bydden nhw’n ymuno â ni hwyrach ymlaen, ond mae llygaid eu timau wedi eu hoelio ar y papurau ar hyn o bryd ta waeth. 

Owain Siôn
Owain Siôn

Leena Farhat yn bresennol!

Owain Siôn
Owain Siôn

Emmett Jenner a Reform yn bresennol!

Mae’r sylwadau wedi cau.

22:22

Croeso

Mae’r bocs cyntaf yn ein cyrraedd ni yma ym Mhlas Arthur. Gwirio pleidleisiau fydd y job gyntaf wrth gwrs, ond gyda llygaid barcud yr asiantau cyfrif o bob plaid, gobeithio y cawn ni rhyw hanner syniad o bwy sydd yn edrych yn hyderus a phwy fydd yn mynd am baned a bath cynnar. Ond yn sicr, fydda i a thîm Golwg360 yma gyda chi tan y diwedd un.

Trwy gydol y nos, byddwn yn dod a cyfweliadau, sylwadau ac unrhyw arsylwad o bwys wrth i chi setlo fewn i beth all fod yn noson etholiad hanesyddol.

Ac wrth gwrs, os ydych chi eisiau ymuno â’r drafodaeth, peidiwch oedi rhag gadael sylwad ar waelod unrhyw ddiweddariad. Yn bennaf, gadewch i ni wybod pa snacks sy’n cadw chi fynd heno…