Galw pawb, pawb, pawb i Rali Ffermwyr Ifanc Môn!

Mae’n adeg brysur i glybiau Ffermwyr Ifanc Môn wrth iddynt paratoi i gystadlu yn ei rali sirol.

Ynyr Williams
gan Ynyr Williams
IMG-20240607-WA0007-2

Arwydd CFFI Penmynydd

IMG-20240607-WA0010-1

Arwydd CFFI Llangoed

IMG-20240607-WA0009

Arwydd CFFI Dwyran

IMG-20240607-WA0008-1

Arwydd CFFI Llangefni

IMG-20240607-WA0006-1

Arwydd CFFI Rhosybol

IMG-20240607-WA0005-1

Arwydd CFFI Bodedern

Mae Mis Mehefin yn amser pwysig iawn yng nghalendr y ffermwyr ifanc yma ym Môn gyda phinacl y flwyddyn yn nesau sef rali’r sir.  Fe’i cynhelir eleni ar ddydd Sadwrn y 15fed o Fehefin ar Faes Sioe Môn.

Mae’r rali yn ddiwrnod llawn hwyl a chystadleuaethau gwahanol megis rhai llwyfan fel canu a dawnsio a rhai mwy amethyddol eu naws fel trin gwlân a chneifio. Un gystudleuaeth sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn ydw i bob clwb greu arwydd i hysbysebu’r rali, ac efallai eich bod wedi sylwi ar rai ohonynt wrth deithio rownd yr ynys.

Bob blwyddyn mae thema gwahanol i’w gael i’r cystadleuaethau a tydi ‘leni ddim yn eithriad. Y thema i’r rali – ac i’r arwyddion – yw ‘Y Gwasanaethau Brys’ ac mae’r 6 clwb sef Bodedern, Dwyran, Llangefni, Llangoed, Penmynydd a Rhosybol wedi bod yn brysur yn creu a gosod yr arwyddion o amgylch yr ynys yn ei ardaloedd lleol. Tybed oes ganddoch chi ffefryn?

Bydd canlyniad cystadleuaeth yr arwyddion yn cael ei gyhoeddi ar ddiwrnod y rali felly dewch draw i weld pwy fydd yr enillwyr ac wrth gwrs i fwynhau llond lle o gystadlu hwyliog.

Mae’r cystadlu yn cychwyn am 8yb a bydd dawns nos i ddilyn yn Nhafarn yr Iorwerth ym Mryngwran yng nghwmni y band lleol Fleur de Lys am 7.30yh.

Pob lwc i bawb!