Technoleg rithwir yn dod ag ynni llanw yn fyw i ddisgyblion

Plant Môn yn dathlu Diwrnod Cefnfor y Byd (6 Mehefin)

gan Llinos Iorwerth

Wrth i blant ysgol ar draws y byd ddathlu Diwrnod Cefnforoedd y Byd, mae disgyblion yn Ynys Môn yn cael cipolwg ar fywyd o dan y môr diolch i dechnoleg VR newydd. Fel rhan o raglen cyswllt ysgolion Menter Môn Morlais mae plant yn cael eu cludo i fyd ynni adnewyddadwy, ble maen nhw yn gallu  cael golwg agosach ar dechnoleg ynni’r llanw a chael cipolwg ar fywyd mamaliaid morol.

Mae Fiona Parry yn swyddog prosiect sgiliau a hyfforddiant gyda Menter Môn. Mae hi’n arwain ar ymweliadau ysgol ac yn gweithio gyda disgyblion i ddangos iddynt sut y gall Morlais leihau carbon trwy gynhyrchu trydan glân. Yn ogystal â dysgu am sut y gall ynni’r llanw fynd i’r afael â newid hinsawdd, mae disgyblion hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddatblygu eu dealltwriaeth am gynaliadwyedd a gwyddoniaeth.

Dywedodd: “Mae’n ymweliadau ysgolion yn rhan bwysig iawn o’n gwaith yma yn Morlais ac yn gyfle i ni fynd â’n stori allan i blant a phobl ifanc yr ardal. Rydyn ni’n siarad am sut y byddwn ni’n cynhyrchu trydan ond hefyd gobeithio y gallwn ni ysbrydoli’r bobl ifanc i feddwl am yrfaoedd yn y sector newydd yma.”

Gyda phwyslais ymarferol ar ynni cynaliadwy, mae’r ymweliadau yn rhan o’r ymrwymiad i gefnogi cymunedau lleol a datblygu ymwybyddiaeth amgylcheddol. Maen nhw’n addysgu disgyblion am realiti newid hinsawdd a’r rôl y gall ynni adnewyddadwy ei chwarae wrth leihau allyriadau carbon.

Wedi’i reoli gan y fenter gymdeithasol, Menter Môn, Morlais yw’r safle ynni llanw mwyaf gyda chaniatâd yn y DU. Mae’r gwaith adeiladu ar is-orsaf Morlais ar Ynys Cybi eisoes wedi’i gwblhau, ac mae disgwyl i’r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2026.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae hefyd wedi sicrhau cyllid gan NDA ac wedi ei gefnogi gan Gyngor Sir Ynys Môn ac Uchelgais Gogledd Cymru.

Dathlwch Ddiwrnod Cefnfor y Byd – Prosiect Diwrnod Cefnfor y Byd (worldoceanday.org)

Llun: Ysgol Llanbedrgoch