Gŵyl newydd sbon yn Llanfairpwll

Cafwyd diwrnod o hwyl a cherddoriaeth yng ngŵyl newydd Go Go Goch ym mhentref Llanfairpwll

Bethan Williams
gan Bethan Williams

Ddydd Sadwrn 25ain o Fai cynhaliwyd Gŵyl newydd sbon ym mhentref Llanfairpwll sef Gŵyl Go Go Goch. Ariannwyd yr ŵyl gan Menter Môn, fel rhan o’r prosiect Balchder Bro, sydd yn rhoi cyfleoedd i gymunedau ar hyd yr ynys i gynnal digwyddiadau i ddathlu cymreictod.

Cafwyd adloniant gan sawl disgybl o Ysgol Llanfairpwll gan i’r band, côr ac unigolion berfformio. Roedd hi’n hyfryd eu cefnogi cyn iddynt fynd ymlaen i gystadlu’r wythnos wedyn yn Eisteddfod yr Urdd. Yn dilyn hyn, mi gafwyd berfformiadau gan Tesni Hughes, Fleur de Lys ac roedd Meinir Gwilym yn cloi’r cyfan.

Yn ogystal a’r cerddoriaeth, roedd llu o weithgareddau eraill yn mynd ymlaen gan gynnwys cymeriadau ar stilts, gweithdy syrcas, cestyll bownsio, paentio gwyneb ac cafwyd ymweliad gan Selog a Dewin! Roedd amrywiaeth o stondinau ar hyd y Gors, gyda digon i ddiddori plant a’r oedolion.

Mi ddefnyddiwyd yr ŵyl fel cyfle i hel arian tuag at ddatblygu’r parc chwarae yn y pentref. Mae criw ohonom wedi bod yn trefnu digwyddiadau ers rhai misoedd bellach er mwyn cael mwy o arian yn y gronfa. Rydym yn awyddus iawn i gael parc chwarae fwy hygyrch a chynhwysol fel fod bob plentyn yn ein cymuned yn gallu ei ddefnyddio.

Roedd hi’n hyfryd cael diwrnod o’r fath ymlaen yn ein pentref bach ni. Roedd pawb i weld yn mwynhau, roedd yr haul yn tywynnu, ac fe godwyd £3,000 i’r gronfa. Croesi bysedd bydd modd gwneud yr un fath yn 2025!