![Y genod a'u tlysau](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/30/2024/06/llanfair-542x335.jpg?1l)
![Llwynogod Llanfair](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/30/2024/06/llanfair-2-308x190.jpg?p)
Mae hi wedi bod yn dymor cyffrous a llwyddiannus iawn i’r genod eleni. Dim ond yr ail dymor iddyn nhw chwarae efo’i gilydd fel tîm ydy hi. Felly ma hi wedi bod yn dipyn o gamp i orffen yn bencampwyr y gynghrair uwchben timau profiadol fel Bangor, Caernarfon, NFA (Rhyl) a Phorthmadog. Ar ôl cychwyn cryf i’r tymor doedd dim modd symud y tim o frig y Gynghrair a dim ond colli 2 gêm wnaethon nhw yn ystod y flwyddyn.
Cafwyd diweddglo perffaith i’r tymor ar gae’r Traeth ym Mhorthmadog yn ddiweddar wrth i Lwynogod Llanfair drechu NFA o 4 gôl i 1 i ennill Cwpan NWGFL Gogledd Cymru o flaen torf fawr. Profiad gwych i’r genod! Mae’r dyfodol yn ddisglair i’r criw o sêr yma ac mae nhw’n yn edrych ymlaen at chwarae yn y Gynghrair o dan 15 oed y tymor nesaf. Pob lwc iddyn nhw!