Dewch i’n helpu i daro targed ariannol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2026!

Byddwch yn rhan o gynllun CAMU! (Cynilo Arian Mistar Urdd!)

Eisteddfod Yr Urdd Ynys Môn

Mae Eisteddfod yr Urdd yn dod i Fôn ym mis Mai 2026, a bydd croeso mawr i’r ŵyl. Mae’r gwaith paratoi wedi dechrau ac mae pawb yn edrych ymlaen at y miri a’r bwrlwm!

Bydd yr Eisteddfod yn dod â buddion sylweddol e.e. 100,000 o ymwelwyr, cryfhau ein diwylliant, a chynyddu proffil ac economi’r ynys. Bydd cystadlu brwd (378 cystadleuaeth!), gweithgareddau cyffrous yn y babell Gelf a Chrefft a’r GwyddonLe, ac arddangosfeydd a pherfformiadau niferus i ddawnswyr, bandiau byw a grwpiau o bob math. Bydd plant, pobl ifanc, ysgolion a theuluoedd o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn dod atom, a bydd cyfle i blant a phobl ifanc lleol fod yn rhan o sioeau, prosiectau a digwyddiadau.

Bydd 2026 yn rhoi Môn ar y map, ac i sicrhau ein bod yn cynnal gŵyl lwyddiannus, rydym angen casglu arian yn lleol. Mae pwyllgorau apêl yn cael eu sefydlu ledled yr ynys ac rydym yn edrych am nawdd gan wahanol gwmnïau.

Rydym hefyd yn lansio cynllun CAMU (Cynilo Arian Mistar Urdd) i ofyn i bobl Môn a thu hwnt wneud cyfraniad misol am £20 y mis tuag at yr ŵyl. Gellir ychwanegu Rhodd Gymorth ar ben hynny i gynyddu’r swm fydd yr Eisteddfod yn ei dderbyn. Er enghraifft, gyda chyfraniad o £20 am 20 mis, bydd y £400 yna yn troi yn £500 ar ôl ychwanegu Rhodd Gymorth. Rydym yn sylweddoli fod y gallu i wneud cyfraniadau misol yn amrywio i bawb, ac felly mae opsiwn i gyfrannu £20, £10, £5 neu swm arall o’ch dewis – byddwn yn ddiolchgar o bob ceiniog. Efallai y bydd ambell un eisiau ymuno â’r cynllun fel anrheg pen-blwydd i deulu? Mae sicrhau cefnogaeth ariannol fel hyn yn allweddol er mwyn cynnal Eisteddfod fythgofiadwy yn 2026.

I ddiolch i chi am eich cyfraniad, bwriadwn gynnal cyngerdd cyn yr Eisteddfod a bydd holl aelodau’r cynllun CAMU yn derbyn tocyn am ddim!

Byddem yn hynod ddiolchgar pe byddech yn gallu bod yn rhan o’r cynllun allweddol hwn – bydd eich haelioni wir yn gwneud gwahaniaeth. Am fwy o wybodaeth ac i fod yn rhan o Gynllun CAMU, dilynwch y ddolen yma – https://www.urdd.cymru/files/8617/1647/5179/Cynllun_CAMU_Eisteddfod_2026_-_terfynol.pdf

Gellir llenwi’r ffurflen  a’i dychwelyd yn ôl cyfarwyddiadau’r ffurflen, os gwelwch yn dda?

Os hoffech fwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw ymholiad am Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, cysylltwch â eisteddfod@urdd.org neu ffoniwch 01678 541 015.