Howyddfab yn hwylio’r Fenai

Cafodd Derwydd Gweinyddol Gorsedd Môn gyfle i hwylio ar lannau Bro Seiriol

Llifon Jones
gan Llifon Jones
IMG_3622

Llun: Phil Hen

Wrth gloi Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Môn Bro Seiriol 2025 ym Miwmares ar ddydd Sadwrn 11 Mai, fe gafwyd golygfa na welwyd erioed o’r blaen mae’n debyg.

Fe wnaeth y Derwydd Gweinyddol, Howyddfab (y Parch Carwyn Siddall), gamu mewn i gwch hefo Clwb Rhwyfo Biwmares ar ôl iddo dderbyn gwahoddiad i ymuno hefo nhw i fynd ar daith ar hyd arfordir Bro Seiriol ac at Ynys Seiriol ei hun. Dyma’u ffordd nhw o groesawu Eisteddfod Môn i’r ardal.

Dyma dystiolaeth fod Eisteddfod Môn yn arloesi a ‘dwi’n falch o ddweud fod Howyddfab wedi cyrraedd yn ôl yn saff!

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

18:00, 8 Tachwedd – 12:00, 24 Rhagfyr (AM DDIM)

SIOE AEAF MÔN 2024

09:00, 9 Tachwedd – 17:00, 10 Tachwedd (Tâl Mynediad - £5 / Plant dan 16 yn mynd i fewn am ddim / Aelodau CFfI 16 a throsodd £2 efo cerdyn aelodaeth)

Cwis

19:30, 22 Tachwedd

Cylchlythyr