‘Brynhawn dydd Sadwrn, 11 Mai, cynhaliwyd gŵyl gyhoeddi Eisteddfod Môn Bro Seiriol 2025 ym Miwmares. A hithau’n ddiwrnod hynod braf a chynnes, roedd y golygfeydd ar draws traeth Lafan am y Gogarth, y Carneddau a draw am yr Wyddfa a’i chriw yn werth eu gweld a’r Fenai yn las yn heulwen mis Mai.
Dechreuodd yr orymdaith o faes parcio Happy Valley, hefo Band Pres Biwmares ar flaen y gad. Cafwyd cynrychiolaeth o gynghorau tref, cymuned ac eglwysi lleol ynghyd â Gorsedd Beirdd Ynys Môn yn yr orymdaith.
Yng nghysgod yr olwyn fawr, cynhaliwyd y seremoni. Cafwyd araith bwrpasol gan y Derwydd Gweinyddol sef Howyddfab (y Parch Carwyn Siddall) a bwysleisiodd pa mor bwysig oedd hi fod yr Eisteddfod yn ymweld ag ardaloedd fel Biwmares, lle nad ydy’r Gymraeg mor gryf â gweddill yr ynys. Llongyfarchodd y Pwyllgor Gwaith lleol am dderbyn yr her.
Yn absenoldeb Edward Morus Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, cyflwynwyd y Rhestr Testunau swmpus gan yr Is-gadeirydd sef Mrs Sian Arwel Davies i’r Derwydd Gweinyddol.
Dywed Edward Morus Jones yn ei air o groeso yn y rhestr testunau:
“Mae [ardal Bro Seiriol yn] ardal ddiddorol, yn cynnwys cymunedau Cwm Cadnant (sef Llandegfan, Glyn y Garth a Llansadwrn) i’r gorllewin, Beaumaris yn ei chanol, a chymunedau Glanrafon, Llanddona, Llangoed a Phenmon i’r dwyrain. Mae’r golygfeydd yn odidog, ac yma fe deimlwch naws cefn gwlad a glan y môr y ddau fel ei gilydd.
“Rwy’n ddyledus i’r criw bychan fu’n gweithio mor ddiwyd yn barod, yn rhoi llawer iawn o’u hamser a’u hegni i baratoi am eisteddfod i’w chofio.”
Cynhelir yr Eisteddfod yn nhref Biwmares ar ddydd Sadwrn 17 Mai 2025 a hynny yn y Ganolfan Hamdden. Bwriedir cynnal gweithgareddau codi arian dros y flwyddyn nesaf.
Am gopi o’r Rhestr Testunau, cysylltwch hefo EisteddfodMon2025@gmail.com a byddan nhw’n siŵr o fod yn Awen Menai a Cwpwrdd Cornel yn fuan.