Drama gomedi yn Llangefni

Bydd Gwesty’r Garibaldi yn cael ei llwyfannu yn Theatr Fach

Theatr Fach Llangefni
gan Theatr Fach Llangefni

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y ddrama gomedi ‘Gwesty’r Garibaldi’ gan Gwynedd Huws Jones yn cael ei pherfformio gan griw Clwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol – mi fydd hi’n cael ei dangos am y tro olaf gan y criw yn y theatr yn fuan.

Mae’r criw ifanc wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth genedlaethol gyda mudiad y Ffermwyr Ifanc gyda’r ddrama, ac wedi dod yn fuddugol yng Ngŵyl Ddrama Môn yn ddiweddar hefyd.

Bydd y criw yn ei pherffomrio hi am y tro olaf yn Theatr Fach Llangefni ar nos Wener y 17eg o Fai, 2024 am 7 o’r gloch.

Dyma’ch cyfle olaf chi i weld y criw talentog wrthi’n perfformio’r ddrama ac i chwerthin llond eich bol.

Bydd yna gôr hefyd yn rhan o’r noson i’ch diddanu.

Tocynnau ar gael o’n gwefan yma neu ar y drws.

Dweud eich dweud