![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/30/2024/05/Picture1-308x505.jpg?42)
Erin Mair, enillydd Tlws Lisa Rowlands.
Eleni roedd Eisteddfod Ieuenctid Marian-glas yn dathlu canmlwyddiant a chafwyd diwrnod o gystadlu brwd a safonol drwy’r dydd hyd at un o’r gloch fore Sul. Diolch i bawb a oedd ynghlwm â’r Eisteddfod ac i’r cystadleuwyr am eu cefnogaeth.
Dyma englyn a gyfansoddodd Iwan Kellett i ddathlu carreg filltir yr Eisteddfod a fydd yn ymddangos mewn cyfrol arbennig “Mwynder y Marian” yn fuan:
Llên geir ym mro’r tegeirian – goreuon
Geiriau’n hynys gyfan.
O’i hawen ddaw llên y llan:
‘Sgwennu’r aur ‘mysg ein harian.
Llongyfarchiadau gwresog i Lleucu Hughes o Lanuwchllyn am ennill Tlws yr Ifanc (Tlws er cof am Robert John Williams, Celt o Fôn) ac i Elain Gwynedd am ennill Cadair y Canmlwyddiant. Rhoddwyd y Gadair gan Olwen Canter a Thlws y Tegeirian a’r wobr ariannol gan deulu’r diweddar Margaret a John Parry. Y Prif Lenor, Sonia Edwards, oedd yn beirniadu’r adran Lenyddiaeth ac roedd hi’n braf ei chlywed hi’n canmol safon uchel y cystadlu.
Disgybl o Ysgol Syr Thomas Jones, Erin Mair, a gipiodd y tlws er cof am Lisa Rowlands am ei pherfformiad ‘caboledig a cherddorol’ ar y piano. Dymuna Erin ddiolch yn fawr i’w hathrawes, Elain Rhys, am ei dysgu mor fendigedig ac i’r eisteddfod am roi’r cyfle i blant yr ardal i gystadlu a magu hyder mewn awyrgylch hapus a chartrefol.
Er mwyn darllen rhagor am ddigwyddiadau’r ardal, cofiwch brynu copi o Yr Arwydd.