Pleser pur oedd i ni gael croesawu’r gantores a’r gyfansoddwraig Lleuwen Steffan i Fôn nos Lun.
Bu i Lleuwen ymweld â Chapel Rhos-y-Gad, Llanfairpwll fel rhan o’i thaith ‘Emynau Coll y Werin’.
Fel cynulleidfa eiddgar oedd yn llenwi’r capel, mawr oedd ein disgwyl i gael clywed campwaith y ddewines gerddorol, ac yn wir, yr oedd pawb yn syfrdan o’r dechrau hyd y diwedd.
Yn ei ffordd naturiol a diymhongar ei hyn, fe’n tywyswyd ganddi ar daith gerddorol, ysbrydol oedd yn plethu hen leisiau’r diwygiad o 1904 a 1905 gydag alawon cerddorol newydd a chanfas o gyfeiliant modern.
Iasol oedd clywed recordiadau o’r archifdy o leisiau’r cyfnod megis Jubilee Young, Ann Mainwaring (Margam), Bertie Stevens (Llangeithio), William Morris a llawer mwy.
Roedd y campwaith arbennig a glywsom yn Rhos-y-Gad yn ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil, olrhain hanes, cyfarfod dinasyddion a chyfansoddi i Lleuwen, a braint oedd cael clywed hanesion am ffigyrau mawr y diwygiad, yr unigolion oedd yn hel atgofion am y cyfnod hwnnw, a chael clywed cyfansoddiadau chwyldroadol Lleuwen.
Ymateb y gynulleidfa
Siwan Llynor
“Roedd y cyfanwaith yn creu profiad ysbrydol fel petai chi’n teithio yn ôl mewn amser drwy lais Lleuwen i deimlo yr un wefr a chynulleidfa 1905.
Roedd clywed Lleuwen yn cydganu gyda hen draciau y pregethau yn codi croen gŵydd.
Perfformiad oedd yn gwneud i chi sylweddoli rhan mor anatod a phwysig sydd gan gerddoriaeth i bwy ydym ni fel Cymry.
Ysbrydol, iasol. Mae Lleuwen yn feistres ar ei chrefft fel cantores ac artist.”
Ymhelaetha Arfon Wyn fel a ganlyn:
“Canmil diolch (Lleuwen) am berfformiad gogoneddus o greadigol heno yn Rhos-y-Gad, Llanfairpwll. Peth agosa’ gawn ni byth i fod mewn cyfarfod Diwygiad ’04 ac yng nghwmni Pink Floyd yr un pryd!”
Fel cynulleidfa, hoffem ddiolch i’r Parchedig Alun Morton Thomas a chyfeillion y capel am ein croesawu’n gynnes ac am roi llwyfan i Lleuwen gael rhannu ei doniau a’i chanfyddiadau â ni.
Pob hwyl iddi gyda gweddill y daith.
Da chi – ewch i’w gweld!