Eisteddfod Yr Urdd yn Croesi’r Bont i Fôn yn 2026

Llywyddion y Dydd a Llywyddion Anrhydeddus a Phwyllgorau Apêl Lleol

Eisteddfod Yr Urdd Ynys Môn
gan Eisteddfod Yr Urdd Ynys Môn

Gyda dros 5,000 o gystadleuwyr yn Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth Môn, mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai prysur ar yr Ynys. Hoffai’r Eisteddfod ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cystadlu, a hefyd i’r holl gefnogwyr, rhieni, gwirfoddolwyr, beirniad a’r hyfforddwyr sydd wedi bod ynghlwm a’r Eisteddfodau – fydden nhw ddim yn bosib heboch chi! Pob lwc i’r rheini sy’n mynd ymlaen i gynrychioli’r ynys ym Meifod fis Mai.

Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd groesi’r bont i Fôn oedd yn 2004, felly mae’r Urdd yn edrych ymlaen at ddychwelyd yno yn 2026 rhwng y 25ain – 31ain o Fai. Mae disgwyl bydd yr Ŵyl yn denu yn agos at 100,000 o ymwelwyr, a chreu miliynau mewn incwm i’r economi leol.

Mae’r paratoadau ar gyfer yr ymweliad wedi hen ddechrau, pwyllgorau wedi’u sefydlu a gwaith caled yn cael ei wneud i godi arian a dewis testunau. Mae’r pwyllgor gwaith hefyd wedi’u hethol fel y ganlyn: Cadeirydd: Manon Wyn Williams, Is gadeiryddion: Derek Evans, Mari Ann Evans, Llinos Medi, Eirian Stephen Jones, Medwyn Roberts, Ysgrifennydd: Fiona Hughes, Is-ysgrifennydd: Greta Stuart, Trysorydd: Rhys Parry.

Mae’r Eisteddfod yn galw am wirfoddolwyr i helpu â threfniadau’r Ŵyl dros y ddwy flynedd nesaf. Os hoffai unrhyw un ymuno a’r pwyllgor celfyddydol i drafod y sioeau, cymanfa, oedfa a’r ŵyl gyhoeddi, yna sganiwch y cod QR isod. Mae croeso i bawb ymuno!

Mae pob ardal sy’n croesawu yr ŵyl yn derbyn targed ariannol, a tharged Ynys Môn yw £380,000, felly bydd angen cymaint o Fonwysion â phosib i helpu i gyrraedd y targed hwn. Mae’r pwyllgorau apêl yn y broses o gael eu sefydlu ar hyn o bryd, ac mae angen gwirfoddolwyr o bob cymuned ar yr ynys i sicrhau bod pwyllgorau yn cael eu creu ar draws y sir. Bydd pob pwyllgor apêl yn derbyn targed unigol, ac yna wedi sefydlu, byddent yn mynd ati i gynnal digwyddiadau dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn casglu arian a chodi brwdfrydedd o fewn eu cymunedau, a sicrhau fod pawb yn rhan o groesawu’r Urdd i’r ardal. Mae croeso mawr i bawb ymuno, felly ewch ati i gofrestru drwy ddilyn y ddolen isod.

Mae’r Eisteddfod hefyd yn galw am enwebiadau ar gyfer Llywyddion y Dydd a Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd ynys Môn 2026. Bydd y Llywyddion y Dydd yn ffigyrau adnabyddus lleol, sy’n cynrychioli’r ynys  a’n esiampl i blant a phobl ifanc heddiw. Bydd y Llywyddion Anrhydeddus yn unigolion sydd wedi rhoi oes o gyfraniad i’r Urdd, trwy wirfoddoli, cefnogi neu hyfforddi. Rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc yr ardal, ac wedi gweithio’n dawel ac yn ddi-dor i roi cyfleoedd drwy’r Gymraeg i Ieuenctid eu bro. Gallwch enwebu trwy ddilyn y ddolen isod.

https://www.urdd.cymru/cy/eisteddfod/mon-2026/

Os oes gennych unrhyw ymholiad am Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, cysylltwch â eisteddfod@urdd.org . Cofiwch ddilyn Eisteddfod yr Urdd ar eu cyfrifon cymdeithasol am ddiweddariadau’r Ŵyl: @EisteddfodUrdd.