Hanes (byr iawn) o borthladdoedd rhydd

Mae porthladdoedd rhydd wedi bod o gwmpas ers yr 16eg ganrif, a bydd gennym un ar Ynys Môn yn fuan

Dr Edward Thomas Jones
gan Dr Edward Thomas Jones

Cafodd simnai Alwminiwm Môn ei ddymchwel ym mis Mawrth i glirio’r ffordd ar gyfer buddsoddiadau gan Stena Line ac eraill fel rhan o fenter Porthladd Rhydd Ynys Môn. Ond o ble daeth y cysyniad o borthladd rhydd?

Nid yw porthladdoedd rhydd (neu ‘freeport’) yn syniad newydd – a dweud y gwir, mae yna enghreifftiau o borthladdoedd rhydd o filoedd o flynyddoedd yn ôl.  Mae’r term yn ddisgynnydd o derm hŷn – ‘free port’, sydd yn ei amrywiol ymgnawdoliadau (yn amrywio o’r term Eidalaidd ‘porto franco’ i’r Sbaeneg ‘puerto libre’) wedi’i ddefnyddio i ddisgrifio parth economaidd arbennig a sefydlwyd gan wlad ac a arddangosid tollau is.

Mae porthladdoedd rhydd wedi bod yn elfennau o’r system fasnach ryngwladol ers canrifoedd.  Mae sut yn union dechreuon yn dal i fod yn destun dadl, ond mae’r rhan fwyaf yn cytuno mai porthladd rhydd Livorno, a sefydlwyd gan y Medici ar ddiwedd yr 16eg ganrif, yw’r enghraifft gynharaf a mwyaf llwyddiannus o borthladd rhydd yn y cyfnod modern cynnar.  Daeth Livorno, Genoa a dinasoedd Eidalaidd eraill yn enwog fel prif enghreifftiau o ffordd arbennig o ddenu masnach.

O’r Eidal, lledodd y syniad o borthladd rhydd i weddill Ewrop; yn y ddeunawfed ganrif i’r Caribî; ac, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, i weddill y byd.  Ymhen amser, daethpwyd i ddiffinio’r porthladd rhydd fel allglofan tiriogaethol wedi ei chynysgaeddu â’i bolisïau economaidd ei hun, yn aml rhyddfrydig; hynny yw, man lle gallai masnachwyr wneud busnes heb fawr o ymyrraeth gan awdurdodau’r gwald.

Mae sawl porthladd enwocaf mewn hanes – o Genoa a Hambwrg i Singapôr a Hong Kong – yn borthladdoedd rhydd.  Roedd porthladdoedd o’r fath yn ganolog i’r system fasnachu’r ardal a’i  lleolwyd ynddi; yna trwy broceri masnach rhwng aradeiledd pell, plygio gwlad i mewn i gylchffordd cyfnewid ryngwladol, neu wasanaethu rhwydwaith o borthladdoedd mwy rhanbarthol.

Yn y bôn, mae’r porthladd rhydd yn un o hynafiaid y parth economaidd arbennig modern ac y mae mwy na chwe mil ohono yn y byd heddiw.

Agorodd y DU ei phorthladd rhydd cyntaf yn yr 1980au wrth i’r llywodraeth Geidwadol geisio mynd i’r afael â’r caledi economaidd a welwyd mewn rhai ardaloedd o ganlyniad i dad-ddiwydianeiddio. Agorwyd chwe phorthladd rhydd ar draws y DU: Belfast, Birmingham, Caerdydd, Lerpwl, Maes Awyr Glasgow Prestwick a Southampton.  Roedd eu llwyddiant i hybu twf economaidd yn gyfyngedig a phenderfynodd y llywodraeth o dan arweiniad y Ceidwadwyr i beidio ag adnewyddu eu trwydded yn 2012.

Yn 2016, cyhoeddodd Rishi Sunak AS adroddiad – The Freeport Opportunity – ar gyfer y Ganolfan Astudiaethau Polisi a amlinellodd ei syniad am borthladdoedd rhydd ar ôl Brexit fel y rhai a welwyd yn yr Unol Daleithiau (dylid nodi bod porthladdoedd rhydd yn cael eu caniatáu yn yr Undeb Ewropeaidd sydd gyda thua 80 safleoedd sydd wedi’u lleoli yng ngwledydd yr undeb).  Ar ôl buddugoliaeth y Blaid Geidwadol yn etholiad cyffredinol 2019, cyhoeddwyd cynlluniau i sefydlu porthladdoedd rhydd gyda’r nod o:

  • hyrwyddo adfywio a chreu swyddi;
  • sefydlu canolfannau cenedlaethol ar gyfer masnachu byd-eang a buddsoddi;
  • creu canolfannau ar gyfer arloesi.

Fel rhan o gyllideb y DU 2021, cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak AS y byddai wyth porthladd rhydd newydd yn cael eu creu yn Lloegr: Maes Awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr, Felixstowe a Harwich, rhanbarth Hwmber, Rhanbarth Dinas Lerpwl, Plymouth, Solent, Tafwys a Teesside.

Yn 2022 daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb â Llywodraeth y DU i sefydlu dau borthladd rhydd newydd yng Nghymru: Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot a Phorthladd Rhydd Ynys Môn.  Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban gynlluniau ar gyfer dau “borthladd gwyrdd” cynaliadwy: Inverness & Cromarty Firth a Firth of Forth.

Gyda’u polisïau economaidd rhyddfrydig, gan gynnwys llai o fiwrocratiaeth a llai o drethi, mae rhai’n pryderu y bydd porthladdoedd rhydd yn darparu man storio lle gellir cynnal masnach heb ei rheoleiddio a heb ei threth ac y gellir cuddio perchnogaeth.  Bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd y porthladd rhydd yn datblygu ar Ynys Môn – a fydd ond yn ailgyfeirio gweithgarwch economaidd o rannau eraill o’r wlad neu’n cael effaith ar safle’r ardal yn y farchnad ryngwladol?  Neu a fydd o unrhyw bwys i neb heblaw’r dyn treth?