Fe gafodd cystadleuaeth ‘Gwledd Adloniant y Ffermwyr Ifanc’ ei chynnal eleni yn Aberhonddu, gyda pherfformiadau o ddramâu Cymraeg ar y dydd Sadwrn a rhai Saesneg ar y dydd Sul.
Rhosybol oedd y clwb oedd yn cynrychioli Ynys Môn ar lefel cenedlaethol eleni, a braint ydi gallu cyhoeddi fod y clwb wedi cyrraedd yr ail safle yn y gystadleuaeth (gyda dim ond hanner marc rhwng Rhosybol a’r enillwyr)
Drama ffars ‘Gwesty’r Garibaldi’ oedd y clwb yn ei pherfformio, drama gan Gwynedd Huws Jones.
Fe gafodd y clwb hefyd 1af am fod â’r ddrama gyda’r cyflawniad technegol gorau, ac fe gafodd Mared Edwards, un o aelodau’r clwb y wobr am fod yr Actores orau yn y gystadleuaeth.
Llongyfarchiadau hefyd i Manon Wyn Rowlands ar gael i’r rhestr fer actores orau ac i Carwyn Jones a Dewi Hywel ar gael i’r rhestr fer fel actor gorau.
Diolch o galon i’r holl gast, Marlyn Samuel a Richard Edwards am ein helpu i gyfarwyddo, John Alun Wright am y sain a’r goleuo, Mari Ellis Owen am helpu gefn llwyfan, Llinos Edwards, Richard Edwards, Carwyn Edwards ac Ian Jones am helpu gyda’r set, Siân Tudor am gludo’r set lawr i Frycheiniog, Lesley Parry am adael i ni ddefnyddio’r drelar i fynd lawr ac i Theatr Fach Llangefni am adael i ni ddefnyddio’r Theatr dros yr wythnosau diwethaf i ymarfer.
Braf iawn oedd cynrychioli’r clwb a’r Ynys draw yn Theatr Brycheiniog dros y penwythnos.