Dyfodol newydd i hen gapel yn Llangefni

Mae buddsoddiad gwerth £400k ymgymerwyr o Fôn wedi diogelu capel hanesyddol a chreu adnodd cymunedol

gan Llinos Iorwerth

Pedair blynedd union wedi i Arwel Hughes, perchennog Trefnwyr Angladd R & J Hughes a’i Fab, brynu Capel Penuel, Llangefni, mae’r gwaith adnewyddu wedi ei gwblhau. Mae’r cwmni bellach yn falch o gynnig ei wasanaethau, yn ogystal â’r lleoliad newydd yn adnodd i’r ardal.

Pan ddaeth y capel ar werth, roedd yn gyfle “rhy dda i’w golli”, a’r amseru yn cyd fynd â’r busnes teuluol yn ymestyn i Langefni, yn ôl Arwel. Gyda chymaint o gapeli yn cau ac yn dadfeilio mae’n dweud ei fod yn falch o fod wedi gallu chwarae rôl wrth ddiogelu dyfodol yr adeilad. “Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous i ni fel busnes, a gyda’r gwaith o adnewyddu Penuel wedi ei gwblhau ‘da ni’n awyddus rŵan agor ein drysau i’r gymuned gyfan.”

Mae’n ychwanegu: “Roedd yr adeilad wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd ac mewn peryg o ddirywio ymhellach pan gawson ni’r goriad nol yn 2020. ‘Da ni’n falch ein bod ni ‘di gallu diogelu’r capel a’i hanes. Ein bwriad ni bob amser oedd ychwanegu gwerth at yr hen adeilad ac i’n busnes, felly ‘da ni ‘di sicrhau ein bod ni’n gwneud yn fawr o’r nodweddion gwreiddiol gan gynnwys y ffenestri lliw a’r gwaith pren. Ar ben hynny ‘da ni wedi buddsoddi er mwyn gwneud hon yn ganolfan all y gymuned ei defnyddio yn ogystal â chynnig gwasanaethau angladd o’r radd flaenaf.“

Yn gwmni wedi ei sefydlu yn Amlwch ers dros 100 mlynedd – tua’r un cyfnod yr adeiladwyd Penuel, mae Arwel yn bedwaredd cenhedlaeth y teulu i fod ynghlwm hefo cwmni John Hughes, sydd bellach yn ran o R&J Hughes. Yn gymeriad amlwg yn ei gymuned mae o a’r cwmni yn falch o’u gwreiddiau ym Môn a’u cyswllt clos gyda’r gymuned leol.

Fel busnes maen nhw o hyd wedi bod yn awyddus arloesi, o’u defnydd o dechnoleg – Arwel oedd un o’r cyntaf i ffrydio angladd yn fyw yn ystod y pandemig – i’w harferion amgylcheddol a chyfraniad cymunedol. Hefo gwahoddiad agored i grwpiau cymunedol a chlybiau ddefnyddio’r cyfleusterau newydd, fydd y benod newydd yn Penuel ddim gwahanol.