Llwyddo yn Llandudno

Côr Ieuenctid Môn yn cyrraedd y brig yng Ngŵyl Gorau Gogledd Cymru

Côr Ieuenctid Môn
gan Côr Ieuenctid Môn
IMG_3945

Llongyfarchiadiau mawr i Gôr Ieuenctid Môn ar lwyddo cipio’r wobr gyntaf yng nghategori y Côr Sioe yng Ngŵyl Gorau Gogledd Cymru dros y penwythnos yn Llandudno.

Roedd hi’n braf gweld dros 90 o blant o 7 oed i 17 oed yn morio canu a mwynhau perfformio ar y llwyfan.

Llwyddodd y cor hŷn ennill yr ail wobr yng nghystadleuaeth lleisiau ifanc yr ŵyl gorau hefyd. Diolch i Mari ac Elen am eu harweiniad, i Elain am gyfeilio ac i holl deulu’r côr, yn blant ac yn rieni am eu brwdfrydedd. Am brofiad ac am benwythnos i’w gofio!