Meinir yn swyno Llangefni

Meinir Gwilym a’r band yn perfformio yn Theatr Fach

Theatr Fach Llangefni
gan Theatr Fach Llangefni
Meinir Gwilym a'r Band yn Theatr Fach

Meinir Gwilym a’r Band yn Theatr Fach

Meinir Gwilym a'r Band yn Theatr Fach

Meinir Gwilym a’r Band yn Theatr Fach

Braf iawn oedd croesawu Meinir Gwilym nôl adra i fro ei mebyd ar Ynys Môn nos Wener (23 Chwefror) i berfformio gig yn Theatr Fach Llangefni.

Mi oedd hi’n wych gweld y Theatr o dan ei sang wrth i’r gantores boblogaidd berfformio hen glasuron ac ambell berl newydd gyda’r band llawn.

Diolch yn fawr iawn i Menter Môn am eu cymorth i allu sicrhau grant gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gynnal y noson arbennig hon.

Mae ’na ambell ddigwyddiad arall ar y gweill yn y theatr dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ewch am sbec yma i weld beth sydd ymlaen.