Yr Hogan o Fôn

Ffrindiau bore oes Leah Owen sy’n hel atgofion am y ferch annwyl o Fôn.

gan Catrin Angharad Jones
404631033_788687986432313

Triawd yr Ynys (o’r chwith): Glenys, Margaret a Leah

404302901_213658905069623

Ffrindiau oes – Sara Tudor a Leah

404404757_342789912011342

Triawd yr Ynys yn y ‘wrap-arounds’ newydd!

404430848_708483441388903

Triawd yr Ynys Eisteddfod Y Bari 1977

404467422_778165964216422

Leah ar y brig yn cael ei llongyfarch gan Ellis Aethwy

404501154_907242683934239

Parti’r Felin yn ail ffurfio dan arweiniad Leah i goffau Gareth Mitford – Eisteddfod Llanbedrgoch 1999

404578433_877292367732324

Pawb yn y ffrogiau ‘Baby-dolls!’. Gareth Mitford yn y canol.

404647301_911419847323365-1

Parti’r Felin

405078391_388467943857030-1

Parti’r Felin – genod Llangefni

image1-1

Nia Lloyd Jones, Huw Edward Jones a’r hyfforddwraig o fri – Leah

image2-1

Huw Edward Jones yn mynd o steddfod i steddfod!

image0-1

Huw a Nia gyda Leah, ei gwr Eifion a’r genod Angharad ag Elysteg.

404347420_723277499768297

Hyfforddi drwy’r cenedlaethau – Leah gyda Nia Lloyd Jones a’i merch, Elin.

404749373_1129077881838964-1

Eisteddfod gofiadwy Bangor ’71

Fel un o’r cerddorion mwyaf annwyl a thalentog i’r ynys ei magu erioed, mae’r bwlch o golli Leah Owen yn anfesuradwy ymysg trigolion Môn. Er y tristwch a’r hiraeth, mae’r stôr o atgofion melys dirifedi sydd ganddom ni ohoni yn mynnu codi gwen drwy’r galar a’r golled.

Er iddi fynd yn ei blaen i gyflawni cymaint mewn bywyd, toedd Leah yr eicon a’r trysor cenedlaethol ddim gwahanol i’r Leah a fu’n troedio coridorau Ysgol Gyfun Llangefni yn y chwedegau. Yr un Leah ddi-lol a diffuant fuo hi ‘rioed, yn fythol ddiolchgar o’i theulu, a’i chymuned yma ym Mon.

Dyma atgofion rhai o gyfeillion bore oes Leah sy’n cofio cyfnod euraidd yng nghwmni’r hogan ifanc o Fôn….

DECHRAU DA YN YR YSGOL GYNRADD A’R YSGOL SUL

Nia Wyn, Llangwyllog

Cafodd Leah a minnau ein magu yn yr un pentref – Rhosmeirch. Atgofion melys o ganu deuawdau gyda Leah, yn y capel a mam, Morfydd Edwards yn cyfeilio ar yr organ. Wedyn canu mewn Eisteddfodau Lleol a Chenedlaethol.

Cofiaf yn arbennig ganu geiriau W Rhys Nichlas ‘A welaist ti’r ddau a ddaeth gyda’r hwyr’ ar alaw Troyte’s Chant, yn y capel, a’r ddeuawd ‘Blodyn Gwyn’ yr oeddem yn ei chanu mewn Eisteddfodau Lleol.

 

PROFIADAU YN YSGOL GYFUN LLANGEFNI

Nest Llewelyn, Llanfairpwll

Cerddoriaeth oedd y llinyn cyswllt rhyngddo fi a Leah o’r cychwyn cyntaf.

Yn gerddorol, cawsom bob cyfle posib yn Ysgol Gyfun Llangefni – y ddwy ohonom yn cyfeilio am yn ail yng ngwasanaethau boreol yr ysgol a hynny yn ein clymu wrth ein gilydd rhywsut a minnau yn cael y fraint o gyfeilio iddi mewn sawl cyngerdd o fewn yr ysgol.

Pan berfformiwyd opera Gilbert & Sullivan bob Nadolig, Leah oedd bob amser yn cael rhan yr eneth dlos oedd yn priodi ar ddiwedd y stori! Roedd pawb yn hoff ohoni a’r bechgyn yn arbennig yn gwirioni –  a pha ryfedd!

 

CERDDORFA SIROL A CHERDDORFA IEUENCTID GOGLEDD CYMRU

Nia Wyn

Daeth cyfleodd gwych i ni fel aelodau o Gerddorfa Ysgol Sir dan arweiniad Arwyn Jones ein hathro cerdd yn Ysgol Gyfun Llangefni, a Cherddorfa Gogledd Cymru dan arweiniad Owain Arwel Hughes.

Nest Llewelyn

Fe gawsom lawer o hwyl yn mynychu cyrsiau Cerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru. Y Cello oedd offeryn Leah, ac roedd criw da ohonom o’r ysgol yn aelodau o’r Gerddorfa. Tra’n aros yng Ngholeg Glynllifon roedd yna hen gadwrîad gyda’r nos yn cerdded y coridorau fel bwganod gwyn yn dychryn yr aelodau eraill!!

Cawsom gyfle hefyd i fynd i wersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Glan Llyn ble roedd y dasg o ganfod cariad yn uchel iawn ar yr agenda! Dyddiau difyr a hwyl digon diniwed – ar y cyfan!!

 

DYLANWAD Y DIWEDDAR MR DEWI JONES A MRS MYRA JONES

Glenys a Margaret, Llanbedrgoch

Daeth y ddwy ohonom o Lanbedrgoch i adnabod Leah a’i rhieni am y tro cyntaf ar ddechrau’r chwedegau pan ddaethom yn aelodau o Adran Yr Urdd yn Llangefni dan arweiniad y Parch Dewi Jones a’i wraig Myra. Cafodd y ddau arbennig yma ddylanwad mawr ar nifer ohonom ond ar neb, mi warantaf, yn fwy na Leah.

Yn ogystal â dysgu’r partïon a’r corau i ganu ac adrodd, roedd Mr a Mrs Jones yn cynnig hyfforddiant i unawdwyr. Roedden nhw wrth eu boddau yng nghanol ein sŵn a’n rhialtwch ac yr oedd y lle yn fwrlwm o hwyl a chwerthin. Byddem yno am oriau yn gwrando ar ein gilydd yn derbyn hyfforddiant. Roedd y ddau mor annwyl a brwdfrydig yn mynd a ni i o steddfod i steddfod. Fe ddysgom i ennill a cholli. Mawr oedd ein braint.

Ar ôl colli Dewi Jones yn dilyn gwaeledd byr yn 1967, o dipyn i beth parhaodd Myra Jones gyda’r hyfforddi. Gofynnodd i Leah am ei chymorth cerddorol fel cyfeilydd ac unawdydd wrth hyfforddi Hogia Bryngwran ar gyfer cynnal nosweithiau llawen a chyngherddau.

Roedd Leah yn ei helfen. Dysgodd lawer wrth draed Gamaliel gan barhau i eisteddfota a pherfformio, mwynhau chwaraeon o bob math a pharhau i ymroi i’w hastudiaethau’n yr ysgol. Roedd rhieni Leah yn eithriadol o gefnogol iddi gan roi pob annogaeth iddi ddilyn ei diddordebau.

Cawsom hwyl garw yn Eisteddfod Rhydaman yn 1970. Yn dilyn y cystadlu, aeth Myra Jones a ni i noson lawen Cymdeithas yr Iaith tua deg o’r gloch y nos ac yn ei ffordd ddihafal ei hun, llwyddodd i gael criw ohonom mewn i’r Neuadd heb yr un tocyn ar ein cyfyl! Cawsom fodd i fyw yng nghanol y deffroad cenedlaethol a chofiwn guro’n traed yn fyddarol i gan Newydd sbon Dafydd Iwan – ‘I’r Gad’!

Ar noson arall, cawsom fynd am dro i’r dref a Mrs Jones yn ein harwain a ninnau fel cywion bach yn ei dilyn yn ufudd pan ddaethom ar draws criw o hogia’ swnllyd, meddw. Heb feddwl dim, rhoddodd Mrs Jones waldan go egar hefo’i holwyth o handbag i un ohonynt druan bach! Roedden ni’n gegrwth ac yn chwerthin na fu’r ffasiwn beth!

Cyn i ni fynd i’n gwelyau y noson honno roedd stori’r antur wedi cyrraedd Sir Fôn, a’r si’n dew yno fod Myra Jones wedi hanner lladd y cradur! Roedd ei gofal mor fawr amdanom a braint oedd cael bod yn rhan o’r cyfeillgarwch. Hwn oedd y Sylfaen gawson ni i gyd a’r cychwyn rhagorol gafodd Leah.

 

Nest Llewelyn

Roedd hi flwyddyn hyn na fi yn yr ysgol uwchradd ond pan ymunais a phartïon canu y diweddar Mrs Myra Jones a Leah yn un o’r aelodau amlycaf, dyna pryd y cychwynodd y cyfeillgarwch oes.

Nia Wyn

Bu’r blynyddoedd gawsom dan hyfforddiant Dewi a Myra Jones yn Adran yr Urdd, Llangefni yn rhai arbennig ac o ddylanwad mawr, a dawn Leah yn amlwg bryd hynny.

Y LLAIS UNIGRYW 

Nest Llewelyn

Roedd hi eisoes wedi dechrau swyno cynulleidfaoedd a beirniaid eisteddfodol hefo’i llais unigryw cwbwl naturiol, wedi ei briodi’n berffaith hefo dehongliadau annwyl , cynnes a diffuant. Ond munud roedd y perfformiadau disglair wedi gorffen roedd Leah yn camu oddi ar y llwyfan i fod y person mwyaf diymhongar, di-ffys, doniol, llawn hiwmor. Nodweddion a barhaodd drwy gydol ei hoes.

Glenys a Margaret

Daeth cyfnod pan ddechreuodd Leah gyfansoddi caneuon ysgafn cofiadwy i gyfeiliant gitâr. Swynodd pawb efo’i llais per ac unigryw. Roedd hi mor dalentog, yn mwynhau perfformio a chystadlu ac yn rhoi o’i gorau bob amser heb ffws na ffwdan.

 

LEAH’N CYMRYD YR AWENAU

Glenys a Margaret

Daeth tro ar fyd pan dderbyniodd Myra Jones driniaeth lawfeddygol yn 1972 a thrwy garedigrwydd Hughie ac Elinor Jones, Tyn Llan , Tregian, cawsom fynd yno i baratoi ar gyfer holl gystadleuthau Eisteddfod Hwlffordd.

Roedden ni’n dwy, Leah, Sara Tudor a’r diweddar Gareth Mitford yn ein helfen ac yno am oriau lawer yng nghwmni’n gilydd. Roedden ni gyd mewn syfrdan ac wedi colli’r angor pan ddaeth y newyddion trist am golli Myra Jones.

Anghofiai fyth benderfyniad Leah a Gareth i gario’i gwaith ymlaen. Doedd dim rhoi’r ffidil yn y to i fod o gwbl. Yn hollol ddibrofiad aeth y ddau ati ar y cyd (efo cymorth llawer un profiadol yn y maes) i osod a’n hyfforddi ni fel côr ar gyfer cystadleuaeth Cerdd Dant dan 21 oed.

Roedd hi’n steddfod emosiynol a chwerw felys iawn i ni a’r uchafbwynt oedd i’r côr ennill a hynny am y chweched tro’n olynol. Roeddem i gyd ar ben ein digon ac yn falch o fedru parhau er parch i’n holl fentoriaid blaenorol.

Roedd Leah a Gareth yn ysu i ddysgu a datblygu eu crefft ymhellach. A dyna wnaeth y ddau gydag arddeliad gan agor eu cwysi eu hunain.

 

MYND O STEDDFOD I STEDDFOD!

Huw Edward Jones, Porthaethwy

Pan oeddwn i’n bedair oed roedd Dad a Mam yn gwerthu’r ty ym Mhorthaethwy ac roedd ymwelwyr yn dod heibio i weld y ty. Pwy feddyliai y buasai’r ymweliad hwnnw yn arwain at lwybr yn fy mywyd roddodd gymaint o gyfleoedd a phrofiadau imi. Ia, Leah ac Eifion oedd yr ymwelwyr ac ar y pryd roeddwn yn y gegin yn sychu llestri!

Fe wnes i ganu rhywbeth a dyma arweiniodd at y posibilrwydd o gael gwersi canu gan Leah! Y nos Iau canlynol aeth Mam a fi draw i Rosmeirch am y wers ganu a dyna oedd y cychwyn felly ar gyfeillgarwch a gwersi am flynyddoedd.

O 1978 ymlaen roeddwn yn mynd ati yn gyson – i Rosmerich i ddechrau ac yna i Dregarth ac roedd Leah yn fy mharatoi at eisteddfodau lleol.

Daeth y profiad cyntaf o fod ar lwyfan cenedlaethol yn yr Wyl Gerdd Dant yng Nghorwen yn 1978. Cefais drydydd y tro hwnnw a sylweddoli fy mod mor lwcus o gael bod yng nghwmni hyfforddwraig cwbl arbennig.

 

Nia Lloyd Jones, Llanfairpwll

Roedden ni’n ymarfer yng nghartref rhieni Leah – tŷ Mr a Mrs. Owen yn Rhosmeirch, ac o gofio bod ‘na tua ugain ohonom, a rhieni yn dacsi …roedden ni’n llenwi’r lle.

 A dyna lle’r oedd Mrs. Owen annwyl yn ein canol ni yn mwynhau’r cyfan.  Fi oedd yr ieuengaf ar y pryd, ac wrth fy modd yng nghanol pawb, ac yn cael yr hyfforddiant gorau gan Leah.

Roedd ganddi hi’r ddawn i ddehongli geiriau, cymeriadu yn ôl yr angen, ac wrth gwrs roedd ei gosodiadau hi yn cyrraedd y brig pob tro.

Roedd hi’n llwyddo i gael y gorau allan o bawb.  Fe gawson ni lwyddiant mawr fel parti cerdd dant ac alaw werin yn yr Eisteddfod Genedlaethol a braint oedd cael ail ffurfio a pherfformio yn y seremoni pan dderbyniodd Leah fedal Syr TH Parry Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy yn 2010.

 

CHWERTHIN A CHERDD DANT!

Nest Llewelyn

Leah ddysgodd i mi sut i osod Cerdd Dant ac roedd bob amser yn barod ei chymwynas ar hyd y blynyddoedd ac yn barod i edrych dros y gosodiadau pan roedd rhyw groes-acen yn y fantol!

Glenys a Margaret

Anghofiai fyth gael gwybod ein bod ar y llwyfan ar y ddeuawd Cerdd Dant dan 21 yn Steddfod Caerfyrddin 1974. Fe sylweddolom fod yna un camgymeriad bach pwysig yn yr acenion…oedden ni am barhau i ganu’r camgymeriad? Wel nag oeddem siŵr iawn….!

Mi newidiodd Leah’r acenion a’r nodau i’r ddwy ohonom ar ddechrau’r ail bennill. Dyna lle roedden ni y tu ôl i ryw babell hefo recordydd tap yn mynd dros yr acenion newydd cyn mynd ar y llwyfan o fewn llai nag awr!

Fe lwyddon ni i roi popeth yn ei le a gorfodi’r ddau feirniad i gael dipyn o sioc gan iddynt orfod newid eu meddyliau a rhoi’r wobr gyntaf i ni’n dwy! Dyna i chi brofi dawn gerddorol a phendantrwydd tawel Leah ar ei orau.

Cawsom gymaint o hwyl a phrofiadau yn canu fel Triawd yr Ynys o dan arweiniad medrus Leah. Byddai pyliau o chwerthin afreolus wastad mewn ymarferion munud olaf a’r un ohonom yn medru cael trefn ar ein hunain! Gwell oedd gwahanu ar brydiau felly a thrio eto’r noson ganlynol!

 

LEAH – MEISTRES Y GWISGOEDD!

Glenys a Margaret

Un o uchafbwyntiau gyrfa gystadlu Leah oedd steddfod Bangor 1971. Roedd ei henillion rif y gwlith fel unigolyn a chafodd Côr y Felin o Langefni hefyd lwyddiant hefo’r côr cerdd dant dan 21 oed.

Yno roedden ni gyd yn llwyfannu yn ein ‘baby dolls’ – y ffrogiau bach mwyaf cwta a welwyd erioed!! Dyma beth oedd bod yn ffasilynol ac roeddent yn dal i’n ffitio’n ddel y flwyddyn ganlynol!

Fe gofiwn Leah’n feistres y gwisgoedd i ni ar gyfer Eisteddfod Caernarfon 1979. Mi grwydrodd am ddyddiau i bob marchnad yng Ngogledd Cymru i gael top glas tywyll a’r sgert wrap-over mwyaf lliwgar a dramatig i ni ac i bob aelod arall o Barti’r Felin. Roedd pawb yn ein gweld o bell!

 

GADAEL MÔN A GADAEL GWADDOL

Huw Edward Jones

Ym Mehefin 1981 fe symudodd Leah, Eifion, Angharad ac Elysteg i Ddinbych. Gallaf ddychmygu fod y symud hwn wedi achosi tipyn o gynnwrf i Mam a minnau ar y pryd – cymaint oedd ein meddwl o Leah. Felly doedd dim arall amdani – teithio yn wythnosol o Borthaethwy i Ddinbych a chadw’r cyswllt hapus gyda Leah! A dyna fu hyd at 1989 pan dorrodd fy llais ymhen hwyr ac hwyrach. Fe barhaodd y cyswllt wedi hynny – bu Leah yn ffrind arbennig i ni fel teulu.

Nia Lloyd Jones

Pan ddechreuodd Elin, fy merch ddangos diddordeb mewn canu, roeddwn i’n gwybod yn iawn bod rhaid i mi roi’r un cyfle iddi hi ac y cefais i, ac oedd…roedd rhaid mynd nôl i Prion wedyn …at Leah.  Drwy’r profiad hwnnw, fe welais ddawn yr athrawes ynddi a’i gallu i gyflwyno’r cyfan mor syml, clir, effeithiol a hwyliog i blentyn.

Trwy fy ngwaith mewn eisteddfodau ar gyfer BBC Radio Cymru, fe fyddwn yn cael y cyfle i holi cystadleuwyr gefn llwyfan, a byddai enw Leah yn codi pob yn ail cystadleuaeth bron, a finnau mor falch o weld a dilyn ei llwyddiant.

 

DIOLCH LEAH, EIN HOGAN O FÔN

Huw Edward Jones

Roeddwn yn teimlo’n gwbl gyfforddus yng nghwmni Leah – roedd fel petai rhywun yn fy lapio mewn blanced o hapusrwydd. Roedd y wers ganu yn hanner awr o fwynhad pur – roedd Leah wastad yr un fath ac yn gwbl gyson, roedd ei natur llawen ac annwyl yn nodwedd barhaol o’i hyfforddi. Os oedd Leah yn yr ystafell roeddwn yn teimlo’n ddiogel a doedd dim terfyn ar ei chefnogaeth.

Oni bai am Leah, fuaswn i ddim wedi cael y fath brofiadau a chyfleoedd pan yn blentyn. Roedd ganddi ffordd arbennig o gael y gorau o bawb – ac roeddwn i eisiau gwneud fy ngorau nid yn unig i blesio fy rhieni ond hefyd i blesio Leah. Rydw i’n gobeithio fy mod yn gallu rhoi chwarter yr hyn gefais gan Leah i’r plant ydw i’n addysgu fel athro.

Braint oedd cael bod yn ei chwmni. Melys yw’r holl atgofion. Mawr yw’r hiraeth am y dyddiau da a’r holl hwyl a chwerthin. Diolch o galon am gael ei hadnabod.

 

Nia Lloyd Jones

Mae gen i hiraeth mawr amdani, ond ‘dw i mor ddiolchgar o’r holl brofiadau uchod a’r cyfan wnes i ddysgu ganddi, ac yn fwy na dim, o fedru dweud bod stamp Leah arna i, fel cannoedd o rai erall.

Nia Wyn

Cymaint o gyfleoedd wrth edrych yn ôl. Mae’r atgofion o’r dyddiau cynnar yn rhai byddaf yn eu trysori.

Glenys a Margaret

Gadawodd waddol mor gyfoethog ar ei hôl. Fe gadwom mewn cysylltiad dros yr holl flynyddoedd gan gyfarfod mewn eisteddfodau ac ambell aduniad ysgol. Loes calon oedd i ni ddeall am ei gwaeledd, ac mor anodd yw derbyn ei bod wedi ein gadael.

Nest Llewelyn

Nodwedd arall amlwg iawn o’i phersonoliaeth oedd ei diddordeb mewn pobl eraill ac yn ymaflchïo yn eu llwyddiant. Rhanodd o’i chariad a’i dawn yn helaeth.

Braint o’r mwyaf oedd ei galw’n ffrind. Roedd hi’n seren go arbennig a daeth i oleuo bywydau cymaint o bobl.

Diolch Leah annwyl.