Llanast yn Llanfairpwll!

Casglu sbwriel yn y Gors

gan Plant Ysgol Llanfairpwll
IMG_6666
IMG_6664
IMG_6661
IMG_6660

Aeth 22 o blant Cyngor Ysgol Llanfairpwll i gasglu sbwriel gyda Gareth Evans o Cadw Gymru’n daclus heddiw. Casglwyd 9 o fagiau mawr coch!

Roedd pawb wedi dychryn wrth weld gymaint o sbwriel. Dywedodd Lois ac Efan “Rydym ni wedi siomi o weld yr holl sbwirel”. Cofiwch pa mor bwysig ydi hi i roi sbwriel yn y biniau, mae yna ddigonedd o finiau o amgylch y Gors!!

Plis defnyddiwch nhw!

Bydd pob dosbarth yn mynd ati i gadw’r Gors yn daclus yn ystod y misoedd nesaf!