Drama newydd S4C wedi ei ffilmio ar Ynys Môn

Mae Bariau yn dechrau ar S4C, Clic ac iplayer ar 3 Ionawr

gan Rownd a Rownd

Drama gignoeth newydd wedi’i lleoli mewn carchar dynion ydy’r cynhyrchiad mawr cyntaf i gael ei ffilmio yn Stiwdio Ffilm Aria yn Llangefni.

Mae’r gyfres chwe phennod Bariau wedi eu seilio ar dystiolaeth carcharorion a swyddogion carchar go iawn, ac yn archwilio perthynas pedwar prif gymeriad ar ddwy ochr o’r gyfraith, â’i gilydd. Mae’r ddrama hefyd yn tynnu sylw at yr effaith wna eu penderfyniadau arnynt eu hunain a’r bobl o’u hamgylch.

Mae’r ddrama ddwyieithog Cymraeg-Saesneg yn serennu Annes Elwy (Gwledd ac Y Golau) a Gwion Tegid (Rownd a Rownd ac Yr Amgueddfa) fel Barry, ynghyd ag Adam Woodward (Hollyoaks ac Emmerdale) fel Kit a Bill Skinner (Ted Lasso) fel George – y ddau yn ymddangos am y tro cyntaf mewn drama S4C. Mae’r gyfres wedi’i hysgrifennu gan Ciron Gruffydd (Limbo) a chyfarwyddo gan Griff Rowland (Y Gwyll, Wizards vs Aliens BBC).

Mae Bariau yn gynhyrchiad Rondo Media ac wedi cyfrannu cannoedd ar filoedd o bunnoedd i mewn i’r economi leol. Mae’r set dwy lawr sy’n cynnwys 24 cell ar draws bron i 2,500m² wedi ei adeiladu gan fasnachwyr lleol ar Lwyfan 1 Stiwdio Aria. Roedd y cynhyrchiad yn cyflogi tua 80 o bobl, gan gynnwys 18 o gyn weithwyr ffatri ieir 2 Sisters – ffatri fawr yn Llangefni a gaeodd ei drysau yn gynharach eleni.

Mae Bariau yn dechrau ar S4C nos Fercher 3 Ionawr am 21:00 gyda’r gyfres gyfan ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iplayer.