“Sut ’Ddolig fydd hi acw?” Dyna gwestiwn y byddwn ni’n siŵr o’i glywed yn aml dros yr wythnosau nesaf, ac yn sicr bydd “Sut Ddolig fu hi acw” yn gwestiwn a glywn ni ganwaith o Ŵyl San Steffan ymlaen.
“Digon tawel” fydd ateb llawer ohonom ni, dwi’n siŵr, a hynny’n siwtio y rhan fwyaf ohonom ni i’r dim.
Cyn yr Ŵyl, bydd llawer o brysurdeb, dwi’n siŵr, gyda’r wythnosau cyn 25 Rhagfyr yn llawn dop o drefniadau, cyngherddau, ymweliadau ac ati – heb sôn am y siopa!
Wrth ysgrifennu’r pwt hwn ar y Gwener Gwallgo’ / Gwener y Gwario blynyddol, fis union cyn y Nadolig, mae rhywun unwaith eto yn cael ei gyflyru i ddechrau meddwl sut Nadolig fydd hi eleni, a beth fydd angen i ni ei wneud a’i drefnu er mwyn cael dathliadau i’w cofio.
Bydd llawer o frandiau enwog y Stryd Fawr (neu frandiau mawr cyrion y trefi, fel y buasai’n gywirach eu galw nhw erbyn hyn) yn rhoi pwyslais ar gael y Nadolig ‘mwyaf a gorau eto’, ond i lawer ohonom, bydd dathliadau llai, a mwy agos atoch chi, yn apelio llawer mwy.
Bu pwyslais canmoladwy iawn yn ddiweddar ar gofio am siopau bach ar y Black Friday bondigrybwyll. “Cofiwch na fydd cwmnïau mawr yn sylwi ar yr hyn a brynwch chi dros yr wythnosau nesaf, ond i fusnesau bach, gallai’r hyn a brynwch chi newid eu bywydau” fel y gwelais i un slogan yn ei ddatgan yn ddiweddar.
Gobeithio y bydd yr un ewyllys da yn parhau drwy’r Ŵyl a thu hwnt – wedi’r cwbl, y rhain sy’n noddi timau pêl-droed y plant, sy’n rhoi gwobrau raffl sawl gwaith y flwyddyn ac yn cyfrannu mewn cant a mil o ffyrdd eraill at ddarlun ehangach eu bro…………..
Os am ddarllen gweddill erthygl Huw Tegid, ewch da chi i brynu papur bro’r Glorian y mis hwn a chefnogi eich papur bro lleol!