Cwis Ffermwyr Ifanc Môn

Cynhaliwyd ein cwis sirol nos Fawrth yn dafarn y Bull yn Llangefni.

Ffermwyr Ifanc Ynys Môn
gan Ffermwyr Ifanc Ynys Môn
403399876_396996565989677

I orffen ein calendr sirol yn swyddogol am y flwyddyn, cynhaliwyd ein cwis sirol nos Fawrth yn dafarn y Bull yn Llangefni. Mi gafwyd nifer fawr iawn o aelodau, arweinyddion ag ffrindiau’r mudiad yn mynychu’r cwis.

Gadawyd y cwis yn nwylo diogel Bob ag Elfed eto eleni, diolch yn fawr i chwi! Mi roedd yno 9 tîm ar y cyfan ar y noson. Holltwyd y cwis i mewn i adrannau o gwestiynau, wedi eu dilyn gydag 15 brawddeg o ganeuon ac roedd angen i’r timau enwi pa gân oeddan nhw. Aethom ymlaen i gwis lluniau wynebau cyfarwydd.

Gorffennwyd gydag adran o’r cwis gan ddefnyddio papur newydd. Gofynnwyd cwestiwn am rywbeth yn y papur ac mi roedd yn ras rhwng y 9 tîm i weiddi’r ateb ag enwi rhif y tudalen. Mi aeth yn eithaf bywiog erbyn diwedd y noson.

I orffen, cynhaliwyd ein cystadleuaeth siwmper Nadolig. Yn y gystadleuaeth dros oed fe ddaeth ein cyn-lywydd sirol i’r brig sef Huw Gwyn, yno yn y gystadleuaeth o dan 18 daeth Siân Eifion o Glwb Llangefni i’r brig.

Yna ar ddiwedd y noson daeth yr amser pwysig, lle cyhoeddwyd enillwyr cwis sirol 2023. Felly eleni’r enillwyr oedd tîm ‘Rwdolff a’r Ceirw’, sef tîm o aelodau a chyn aelodau o glybiau Bodedern a Phenmynydd.

Mi roedd yn noson hwyliog iawn i orffen blwyddyn lwyddiannus arall o fewn y mudiad yma ym Môn. Hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth y mudiad!