Gwasanaeth Carolau CFfi Ynys Môn

Cynhaliwyd ein nos Sul yn Neuadd Blwyf Llandegfan

Ffermwyr Ifanc Ynys Môn
gan Ffermwyr Ifanc Ynys Môn
406446648_3513932865548197
406061102_376562538106480

Will Hughes – Caderiydd Sirol CFfi Ynys Mon.

403418155_159761683888383

Mererid Richards – Cyd-drysorydd Sirol

403406007_694140592925844

Ynyr Williams – Aelod Clwb Bodedern

403401989_2526167740885967

Manon Rowlands – Cadeirydd Hyfforddiant

409872641_889461562897772

Parti Canu Clwb Rhosybol

406240079_321547127387262

Lois Angharad – Aelod Clwb Penmynydd

406230364_902319954570647

Jane Richardson – Hosbis Dewi Sant

403408831_1059301941778979

Adroddiad – Clwb Dwyran

386442824_1654153871782551

Adroddiad Clwb Llangefni

406008953_904859928024187

Parti Canu Clwb Llangoed

403399824_2407151346139109

Ellena Thomas-Jones – Llywydd Sirol

403415260_6789053704525418

Cynhaliwyd ein gwasanaeth carolau blynyddol ar nos Sul yn Neuadd y Plwyf Llandegfan. Rydym yn hynod o falch o ddweud ein bod wedi llenwi’r neuadd gyfan ar y noson. Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnal yn flynyddol mewn lleoliad gwahanol yn dilyn dewis y Cadeirydd Sirol. Eleni Will Hughes yw ein Cadeirydd, felly mi roedd yn hynod o falch o groesawu ni i Landegfan eleni. Dewisodd Will eleni mai ein helusen ddewisol oedd y gwasanaeth gweithgar Hosbis Dewi Sant Ynys Môn. Braint oedd cael eu croesawu ar y noson iddynt rannu eu cefndir a’r holl waith caled, gan rannu’r pwysigrwydd digwyddiadau codi arian fel hon.

O dan arweiniad Will mi gafwyd gwledd o ran darlleniadau a chanu. Dechreuwyd gyda darn darllen o Matthew 2:1-12 gan Mererid Richards, sef ein cyd-drysorydd sirol. Dilynwyd gan adroddiad eithaf digri a hwyliog gan Ynyr Williams sef aelod o glwb Bodedern. Darlleniad wedyn gafwyd gan Manon Rowlands ein cadeirydd hyfforddiant o Luc 2: 8-21. Yn dilyn hyn, clywyd lleisiau hyfryd parti canu clwb Rhosybol. Daeth y darlleniad nesaf gan Lois Angharad, sef aelod o glwb Penmynydd. Clywed adroddiad gan glwb Dwyran a chlwb Llangefni daeth yn nesaf ar y noson. I orffen y diddanu gan ein clybiau, gwrandawyd ar barti canu clwb Llangoed, hyfryd oedd eu gweld yn creu defnydd o BSL wrth ganu. I orffen y noson, rhannwyd diolchiadau gan Will.

Yna, gorffennwys y noson gan ein Llywydd sirol sef Ellena Thomas-Jones gyda’r Fendith a’r garol olaf.

Rydym wedi rhannu rhan fach o’r noson hefo chi. Diolchwyd hefyd i’n swyddogion sirol Meinir Thomas-Parry a Lowri Hughes am ddarllen rhai o’r carol. Diolch hefyd i’n cyfeilyddes Non Williams.

Aethom ymlaen wedyn i gael paned a sgwrs gyda danteithion melys wedi eu rhannu gan aelodau o ffrindiau clwb Penmynydd. Rydym yn hynod o falch o rannu’r llwyddiant ein bod wedi codi dros £370 ar gyfer Hosbis Dewi Sant. Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yno yn ein cefnogi ag am eu rhoddion hael i’r elusen.