Annwen Morgan yw cadeirydd newydd Fforwm Iaith Ynys Môn. Mae’n olynu Dr Haydn Edwards a ymddiswyddodd ym mis Gorffennaf wedi chwe blynedd yn y rôl.
Mae Annwen Morgan yn un o garedigion hir sefydlog y Gymraeg ym Môn. Yn enedigol o ardal Llaneilian, derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Graddiodd gyda BA yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor cyn derbyn tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg. Dechreuodd weithio fel athrawes Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Bodedern ym 1983 gan ddod yn bennaeth adran ym 1994 ac yn bennaeth ar yr ysgol yn 2007.
Daeth gyrfa addysgu Annwen i ben yn 2016 wedi iddi dderbyn swydd fel prif weithredwr cynorthwyol ar Gyngor Sir Ynys Môn. Penodwyd hi’n brif weithredwr ym mis Awst 2019, misoedd yn unig cyn cyfnodau clo’r pandemig COVID-19. Yn ogystal ag arwain y cyngor sir drwy’r blynyddoedd heriol hynny, bu’n gyfrifol am gynrychioli buddiannau’r Gymraeg ar yr uwch dîm arwain. Arweiniodd ar baratoi strategaeth i hybu’r iaith a chynlluniau i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn y weinyddiaeth.
Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Annwen Morgan: “Hoffwn ddiolch i Dr Haydn Edwards am ei wasanaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae’n fraint cael fy mhenodi’n gadeirydd gan aelodau’r Fforwm Iaith; fforwm y mae gennyf gysylltiad hir a hoffus ag o. Edrychaf ymlaen at gefnogi ac arwain y corff arbennig hwn o sefydliadau sy’n gweithio i gynnal a datblygu’r Gymraeg ar Ynys Môn.”
Yn cefnogi Annwen yn y rôl fydd Dr Lowri Angharad Hughes a benodwyd yn is-gadeirydd mewn cyfarfod diweddar yn Oriel Môn, Llangefni. Hefyd o Fôn, mae Lowri yn cynrychioli Prifysgol Bangor ar y Fforwm Iaith ble mae’n gweithio fel pennaeth polisi a datblygu a dirprwy is-ganghellor cynorthwyol.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, sy’n dal y portffolio addysg a’r Gymraeg ar bwyllgor gwaith Cyngor Sir Ynys Môn: “Braf yw gwybod bod y Fforwm Iaith yn cael ei arwain gan unigolion profiadol ac ymroddedig i achos y Gymraeg ym Môn. Does gennyf ddim amheuaeth y bydd ei arbenigedd a’i ddylanwad yn parhau i dyfu dan eu gofal.”
Sefydlwyd Fforwm Iaith Ynys Môn yn 2014 gan Gyngor Sir Ynys Môn ar y cyd gyda Menter Iaith Môn a phartneriaid eraill. Ei nod yw annog cydweithio rhwng sefydliadau er lles y Gymraeg yn lleol. Erbyn hyn mae 30 o sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector yn cael eu cynrychioli ar y fforwm. Mae’n cyfarfod bob yn ail mis mewn gwanhaol leoliadau ar yr ynys. Gallwch ddysgu mwy am y Fforwm Iaith drwy ymweld â’i dudalen ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn neu e-bostio Cymraeg@ynysmon.llyw.cymru.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ffreuer Owen, Rheolwr Polisi a’r Gymraeg, Cyngor Sir Ynys Môn (01248) 752 520