Gyda’r dyddiau olaf yn fuan hedfan heibio cyn i ni yma ym Môn groesawu ffermwyr ifanc o hyd a lled Cymru, beth am un cwestiwn ag ateb arall? Yn olaf, aethom at Gadeirydd yr Eisteddfod sef Gwen Edwards i holi am ei phrofiad hi yn y rôl dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma beth roedd ganddi i’w ddweud.
1. Wyt ti wedi mwynhau dy rôl fel Cadeirydd Eisteddfod Cymru, Môn 2023?
Do, dwi wedi mwynhau bod yn gadeirydd eisteddfod Cymru eleni. Mae hi wedi bod yn brofiad a hanner ac yn bleser cydweithio hefo pawb ar y pwyllgor a staff Cymru hefyd. Dwi’n edrych ymlaen at weld be fydd yn digwydd yn yr eisteddfod ar y 18 Tachwedd.
2. Beth ydy’r her fwyaf wedi bod i chdi wrth drefnu’r Eisteddfod?
Dwi’n meddwl un o’r heriau fwyaf ges i fel cadeirydd oedd trefnu testunau. ‘Nes i ddim sylwi fod yno gymaint o ddarnau llefaru, darnau cerddoriaeth a gymaint o reolau. Felly dwi’n teimlo mai dyna oedd yr her fwyaf, ond dwi’n teimlo mi wnes i fwynhau gan ein bod ni’n trio dal y ddysgl yn wastad i bawb ar draws Cymru.
3. Oes gen ti gystadleuaeth benodol ti’n edrych ymlaen at ei gweld neu gystadlu ynddi?
Dwi’n hogan ‘steddfod, felly yn mwynhau rhan fwyaf o’r cystadlaethau ar y diwrnod. Ond dwi yn meddwl ar ran yr ochr ffermwyr ifanc, gennai ychydig dwi’n fwynhau fwyaf sef y Sioeau Cerdd, Deuawdau Doniol, y Côr, Parti Unsain a’r Sgets.
4. Pa mor bwysig ydy rhoi llwyfan fel hyn i bobl ifanc y mudiad?
Mae hi’n ofnadwy o bwysig rhoi llwyfan fel hyn i bobl ifanc y mudiad. Dim pawb sydd yn mwynhau barnu, diwrnod Gwaith maes, hanner awr adloniant a drama. Ond ella eu bod nhw’n mwynhau gwneud gwaith celf, llefaru, sgets neu feim. Mae cymaint o bethau gwahanol gallwch eu gwneud ar lwyfan yr eisteddfod o gymharu â gweddill y calendr. Dwi’n teimlo ei fod yn bwysig i bawb gael y cyfle i fynychu a gwneud beth maen nhw yn ei fwynhau.
5. Tri gair i ddisgrifio yr hyn sy’n ein haros ar faes Sioe Môn ar 18 Tachwedd?
Llawn bwrlwm… Egnïol… a Prysur.
A welwn ni chi yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yma yn gae sioe Mona ar y 18 Tachwedd? Cofiwch gadw golwg ar Môn360 i weld ein blog byw o’r diwrnod!