Merched yn Serennu ym Myd Cerddoriaeth🎶

Ail Egni i Gerddoriaeth Grace Williams

Glesni Rhys
gan Glesni Rhys
Glesni Jones

Cor Hyn Ieuenctid Môn gyda’r artistiaid unigol

Glesni Jones

Artistiaid y noson

WhatsApp-Image-2023

Y llyfr trefniannau newydd-gyhoeddedig

WhatsApp-Image-2023-1A.J. Robinson

Grace Williams (c1976) llun: A.J. Robinson

WhatsApp-Image-2023-2

Elain Rhys Jones o Fodedern

Braf iawn oedd gweld Neuadd Powis, Prifysgol Bangor dan ei sang nos Wener, Tachwedd 3ydd a chynulleidfa gref yn mwynhau gwledd o gerddoriaeth.

Noson oedd hi i rannu ffrwyth prosiect a gyllidwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i roi ‘ail egni’ i gerddoriaeth un o gyfansoddwyr benywaidd mwyaf blaenllaw Cymru sef Grace Williams.

Yn dilyn graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor, aeth Elain Rhys Jones, yn wreiddiol o Fodedern, ymlaen i ddilyn cwrs Meistr trwy Ymchwil, gan greu astudiaeth o drefniannau alawon gwern Cymreig y gyfansoddwraig Grace Williams (1907-1977).

Ar ôl canfod fod 78% o drefniannau gwerin Grace Williams yn anghyhoeddiedig, derbyniodd Elain grant i gyhoeddi cyfran fach o’r trefniannau gwerin yma dan ofal Cwmni Cyhoeddi Curiad.

Bu cyfle arbennig i’r gynulleidfa glywed y trefniannau yma am y tro cyntaf un nos Wener a berfformwyd gan Elain a’i chyfeillion cerddorol sef Angharad Wyn Jones, Cai Fôn Davies, Glesni Rhys Jones, Steffan Dafydd ac aelodau o Gôr Hyn Ieuenctid Môn.

I dorri ar y canu, cafwyd sgyrsiau ddiddorol rhwng Elain a’i thiwtor, Yr Athro Pwyll ap Sion wrth iddynt drafod canfyddiadau diddordol y gwaith ymchwil yn gelfydd a naturiol. Roedd angerdd Elain at y pwnc yn glir ac roedd yn gyfle i’r gynulleidfa ymgyfarwyddo gydag arddull gyfansoddi Grace Williams a dod i adnabod ychydig o’i dylanwadau cerddorol hi megis y cyfansoddwr Vaughan Williams.

Cafwyd perfformiadau hyfryd o drefniannau o alawon gwerin megis ‘Hiraeth’ gan Glesni Rhys Jones a ‘Cariad Cyntaf’ gan Cai Fôn Davies. Pinicl y noson oedd y perfformiad cyflawn cyntaf o ‘Welsh Airs’. Mae’r Welsh Airs yn gasgliad o ddeg o alawon Cymraeg ar gyfer soprano, tenor a bariton i gyfeiliant dwy delyn. Nid yw union ddyddiad cyfansoddi’r gwaith yn hysbys ond ceir awgrym pendant mewn mwy nag un gohebiaeth fod Williams wedi trefnu’r alawon ar gyfer un o raglenni radio’r BBC yn 1950.

Mae’r gwaith hwn bellach wedi’i gyhoeddi yn ogystal â ‘Hiraeth’ a ‘Cariad Cyntaf’. Maent ar gael i’w prynu oddi ar wefan Curiad.

Bu sawl un yn awyddus i gyfleu eu mwynhad o’r noson ar y cyfryngau cymdeithasol;

‘Llongyfarchiadau ar dy waith ac am y cyngerdd neithiwr…wedi mwynhau – diddorol iawn!’ (Huw Roberts)

Lleisia’r artistiaid eu mwynhad yn fawr hefyd, wrth i Angharad Wyn Jones ddatgan;

‘Noson WEFREIDDIOL heno yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor. Llongyfarchiadau mawr i ti Elain ar dy waith ymchwil. Braint a phleser oedd i mi gael bod yn rhan ohono.’

Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi’r noson. Llongyfarchiadau unwaith eto i Elain Rhys, ac

yng ngeiriau Dr Wyn Thomas, roedd yn dda gweld ffrwyth ei hymchwil yn cael ei berfformio’n fyw.

Mewn cyfweliad gyda Caryl Bryn ar raglen Prynhawn Da ar S4C eglura Elain Rhys ei bod yn uniaethu â Grace Williams fel cyfeilydd a cherddor. Yn wir, nid yw’r gwaith yn dod i ben i’r fyfyrwraig yma wrth i Elain ddilyn cwrs PhD yn seiliedig ar unig opera Grace Williams, The Parlour.

Mewn oes ble mae merched yn camu yn fwy-fwy i’r goleuni, braf oedd gweld y ddwy seren yma’n goleuo’n ddisglair nos Wener.