Ocsiwn Addewidion Neuadd Goffa Bodwrog

Noson i godi arian at y Neuadd

gan Llio Davies
IMG_5816

Yr artist Gwynfor Griffiths a Guto Thomas

IMG_5815

Hogia Bodwrog

IMG_5813

Bach a Mawr

IMG_5812

Rhion Owen yr Arwerthwr

IMG_5814

Cynulleidfa hael!

Daeth y gymuned ynghyd ar 14 Medi er mwyn codi arian at Neuadd Goffa Bodwrog.

Cynhaliwyd Ocsiwn Addewidion yn Nhafarn yr Iorwerth, Bryngwran er mwyn codi arian at gynnal a chadw Neuadd sy’n agos iawn at galonnau llawer yn ardal Bodwrog a thu hwnt. O fynychu cyfarfodydd amrywiol, ysgol feithrin, clwb ieuenctid, ymarferion yr Urdd, Clapio Wyau, creu addurniadau Calan Gaeaf, noson garolau a Merched y Wawr, mae gan bawb atgofion melys o’r neuadd. Dyna pam y daeth tyrfa fawr ynghyd er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad a chefnogi’r adeilad arbennig hwn.

Arweinydd y noson oedd y profiadol Elfed Hughes a diolchwyd iddo am y rhodd caredig gan gwmni Hogan. Cafwyd adloniant cerddorol gan Hogia Bodwrog, sy’n ymarfer yn wythnosol yn y Neuadd, a dechreuwyd y noson yn ôl eu harfer gyda’r gân boblogaidd ‘Moliannwn’. Roedd pawb yn chwerthin ac yn eu dyblau yn gwrando ar Bach a Mawr yn perfformio eu sgets ddoniol.

Wrth gwrs, y tu ôl i bob noson lwyddiannus, mae byddin o bobl yn gweithio’n ddiflino yn y cefndir am wythnosau. Diolch yn fawr i Bwyllgor y Neuadd a’u teuluoedd am eu holl waith paratoi yn casglu rhoddion a gwneud y gwaith gweinyddol. Diolch hefyd i bawb a gyfrannodd yn hael tuag at y rhoddion a’r raffl; o hamperi amrywiol, lluniau, dillad, bwyd ci, piano, beic a thalebau amrywiol. Roedd rhywbeth at ddant pawb.

Un eitem oedd yn arbennig o berthnasol oedd llun o’r Neuadd gan yr artist dawnus Gwynfor Griffiths. Prynwyd y llun gan Guto Thomas ac fe’i rhoddodd yn anrheg i’w arddangos yn y Neuadd. Chwarae teg iddo.

Diolch hefyd i’r arwerthwr dawnus, Rhion Owen o Arwerthwyr LWH, Bryncir, sydd hefyd yn aelod o Hogia Bodwrog. Llwyddodd i berswadio pawb i dyrchu’n ddyfnach yn eu pocedi at yr achos da hwn.

Diolch i haelioni pawb, codwyd swm anrhydeddus o dros £12,000!

Diolch i Dafarn yr Iorwerth am ddarparu’r lleoliad, ond yn bennaf oll diolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd.

Dweud eich dweud