Wel, mae hi bellach yn fis Tachwedd ac mae’r clociau wedi’u troi. Tydy’r tywydd ddim cystal ond mae angen manteisio ar y dyddiau braf gawn ni rhwng rŵan a’r gwanwyn. Gan fod llawer o lwybrau yn mynd i fod reit wlyb, efallai mai’r llefydd gorau i grwydro ydy’r traethau gwych sgyno ni ar garreg y drws.
Yn ddi-os, y traeth dwi’n tueddu ymweld ag o dros fisoedd y gaeaf (pan mae’r cyfle’n dŵad!) ydy Llanddwyn.
Efallai fod hwn yn ddewis amlwg, ond mae’r traeth hwn yn lle gwych i fynd. Mae gyno chi dri dewis o ran llwybrau a thraethau gan ddibynnu ar y llanw.
Y prif atyniad ydy mentro i Ynys Llanddwyn ac ymweld â’r goleudy ar ben yr ynys ac mae digon o lwybrau ar yr ynys ei hun fedrwch chi fynd arnyn nhw. Ar bob llwybr, gewch chi olygfeydd gwahanol, boed draw i aber afon Cefni a thiroedd Bodorgan a Pharadwys, draw i’r Eifl a phenrhyn Llŷn neu draw i’r Wyddfa ac Eryri. Byddwch yn ofalus o ran y llanw ond mae’r prynhawn yn amser gwych i fynd.
Yr ail opsiwn ydy mynd ar hyd y brif draeth ond hefyd troi i’r chwith pan ‘da chi’n cyrraedd y traeth a mynd ar ben y twyni a mynd i gyfeiriad Aber Menai. Mae hwnnw’n opsiwn os ydy’r llanw mewn a’ch bod chi’n methu mynd ar yr ynys.
Y trydydd opsiwn ydy mynd ar y traeth tu draw i’r ynys i gyfeiriad Malltraeth. Mae hwn yn draeth agored braf ac yn lle poblogaidd i gŵn a cheffylau. Byddwch yn ofalus wrth nesau at aber afon Cefni gan y gallwch cael eich dal yn y tywod, ond mae’r traeth ar y cyfan yn saff. Mi fedrwch chi fentro i’r goedwig ffordd yma hefyd.
Felly, ewch am sgowt i Landdwyn – chewch chi mo’ch siomi. Mae tâl am barcio wrth i chi adael neu mi allwch chi brynu tocyn blwyddyn. Neu, os ydy hi’n sych a braf, pam na cherddwch chi o bentref Niwbwrch ei hun ar hyd y lôn drwy’r goedwig i’r traeth, neu parcio ym Mhen Lôn?
Hwyl ar y cerdded ac ella welai chi’n Llanddwyn!