Dosbarthiadau Ŵyn i’r Cigydd Sioe Aeaf Môn 2023

Cafwyd cystadlu brwd yn nosbarthiadau ŵyn i’r cigydd Sioe Aeaf Môn, ddydd Sadwrn 4ydd Tachwedd 2023.

gan Gareth Jones
Phil Hen

Barod i ddangos

Phil Hen

Arddangoswyr y Ffermwyr Ifanc

Phil Hen

Y genhedlaeth nesaf o amaethwyr Môn

Phil Hen

Gareth Roberts, Myfyrian

Phil Hen

Parau gwych eleni!

Phil Hen

Cyntaf i Lois Angharad Jones

Phil Hen

Casi yn wên o glust i glust!

Phil Hen

Cadw trefn ar y cystadlu

Phil Hen

Y triawd prysur yn rhedeg y cystadlu

Phil Hen

Tomos yn dod i’r brig!

Phil Hen

Da iawn chi hogia!

Phil Hen

Cadw llygaid ar y beirniad

Phil Hen

Cystadlu am bencampwriaeth adrannau’r tywyswyr ifanc

Y tad a’r mabPhil Hen

Richard a Sion Evans Jones, Llanddona

Dosbarthiadau Ŵyn i’r Cigydd, Sioe Aeaf Môn 2023

Ddydd Sadwrn a dydd Sul y 4ydd a’r 5ed o Dachwedd, cynhaliwyd Sioe Aeaf Môn, a hynny am y degfed tro ar hugain. Roedd yn ddigwyddiad undydd yn wreiddiol, yn cynnwys ŵyn a gwartheg masnachol, cynnyrch cartref a chynnyrch fferm, ond ers hynny, mae wedi ehangu i ddod yn ddigwyddiad deuddydd ac mae’r ail ddiwrnod yn gyfle i selogion byd y cŵn, merlod a cheffylau ac anifeiliaid anwes ddangos eu hanifeiliaid hwythau.

Cafwyd nifer dda iawn yn cystadlu yn adran yr ŵyn ar y diwrnod cyntaf. Mae’r adran yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer ŵyn cynhenid (yn cynnwys bridiau ucheldir a mynydd Cymru) a rhai i fridiau tramor, ac yn eu plith, ceir defaid Texel (sy’n gyffredin iawn yng Nghymru erbyn hyn ac yma ers dechrau’r wythdegau os nad cyn hynny) ac enwau ecsotig megis Beltex, Charmois a Dassenkop (math o ddefaid Texel sydd â lliwiau tebyg iawn i’r defaid Torwen Cymreig), a’r ‘Dutch Spotted’, brid sydd â’r un lliwiau a’r un patrwm â’r buchod godro enwog o’r wlad honno. Yn union fel yn adran y gwartheg, y bridiau cyfandirol sy’n tueddu i ennill y prif wobrau erbyn hyn, a dyna oedd yr hanes yn Sioe Aeaf Môn.

Roedd yna ddosbarthiadau ar gyfer y tywyswyr ifanc hefyd – nid barnu’r anifail y tro hwn, ond barnu sgiliau’r dangoswr, ac roedd adrannau dan 7, 7-10 oed, 11-14 oed ac 15-18 oed, a phencampwriaeth i ddewis y dangoswr gorau o blith buddugwyr y pedwar dosbarth.

Dyma rai o ganlyniadau’r diwrnod:

Pencampwr y Bridiau Cyfandoriol a Phrif Bencampwyr Adran yr Ŵyn: Mr Tirion Griffiths, Derwen, Sir Ddinbych (yn ennill am yr ail flwyddyn yn olynol a hefyd yn enillydd yr adran Ŵyn Beltex)

Pencampwr y Bridiau Cynhenid: Mr Deio Rowlands, Llanddeusant.

Yr Un Oen Cigydd Gorau – Oen Beltex (i ŵyn wedi’u dewis o blith y parau yn y dosbarthiadau blaenorol): Mr Dyfan Evans, Melin y Wig (dangoswr sydd wedi ennill prif bencampwriaeth yr ŵyn bedair gwaith yn olynol yn Sioe Aeaf Môn, 2012 – 2015)

Un Oen Cigydd yn cael ei arddangos gan aelod o Glybiau Ffermwyr Ifanc Ynys Môn:

1af: Miss Lois Angharad Jones (CFfI Llangoed); 2il: Erin Foulkes (CFfI Penmynydd); 3ydd: Miss Lydia Parry (CFfI Bodedern): (neges i aelodau Dwyran, Llangefni a Rhosybol: cofiwch roi cynnig ar y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf!)

Pâr o ŵyn gan arddangoswr sydd heb gael gwobr gyntaf yn Sioe Aeaf Môn yn flaenorol:

1af: Miss Lowri Siân Jones; 2il: Miss Megan Foulkes

Diolch i Phil Hen am y lluniau.