Cwestiwn ag ateb gyda Threfnydd Ffermwyr Ifanc Môn!

Gofynnwyd ychydig o gwestiynau i Edna Jones yn yr wythnosau cyn Eisteddfod Cymru a fydd yma ym Môn.

Lowri Hughes
gan Lowri Hughes

Gydag ychydig llai na phythefnos tan fydd Eisteddfod Cymru 2023 ar faes y sioe ym Mona, aethom ati i ofyn ychydig o gwestiynau i’r trefnydd Sirol sef Edna Jones! Dyma beth roedd ganddi i’w ddweud.

1. Fel Trefnydd Sirol CFFI Môn, sut deimlad ydy cael tîm o bobl ifanc yn cyd-drefnu’r Eisteddfod efo chi?

Mae o’n deimlad ofnadwy o braf fod pobl ifanc yn cymryd yr awenau i drefnu. Mae’n nhw’n dangos cymaint o frwdfrydedd ac yn ddigon hyderus i fynd ar afael a’r gwaith, a mi ‘dwi mor falch o’i gweld nhw’n cael y cyfle.

 2. Ydy i wedi bod yn her trefnu eisteddfod Cymru yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni?

Yndi yn bendant. Mewn ffordd, rydan ni wedi bod yn ofnadwy o ffodus o gael lleoliad i fedru cynnal yr Eisteddfod ar yr ynys a diolch i’r gymdeithas amaethyddol am eu cefnogaeth, ond wedyn mae cymaint o waith cael adnoddau i mewn a chostau yn cynyddu. Mae rhywun yn parchu, yn y sefyllfa ohoni, fod rhaid i unigolion a busnesau fod yn ofalus o’r hyn y mae’n nhw’n gallu ei roi gan fod pob ceiniog yn gorfod mynd yn bell, ac mi rydan ni mor ddiolchgar i bawb sydd wedi cynnig nawdd eleni. Ond, mae yna dorf sydd hefyd wedi cynnig cefnogaeth mewn ffyrdd eraill boed drwy roi eu hamser, menthyg eu trelars i gario geriach neu beth bynnag…mawr ydy’n diolch ni i bob un!

3. Ble fyddwch chi felly ar ddiwrnod yr Eisteddfod?

Yn y bar! Neu o bosib yn Sbaen!!

Na….tu cefn i’r llwyfan mae’n debyg neu’n dipyn bach o bob man yn trio cynnig cefnogaeth i aelodau, stiwardiaid neu bwy bynnag fydd eisiau pâr o ddwylo i helpu a chlustia’ i wrando! Mi helpai mewn unrhyw ffordd y gallai.

4. Mae llawer o aelodau ifanc ar yr ynys bellach. Ydy dyfodol y mudiad yn saff?

Ydi. ‘Da ni wedi newid yr oedran ymaelodi i 13 yma ym Môn ac mae cymaint o aelodau ifanc, gweithgar, galluog a hyderus yn dod i fyny drwy’r ranks fel petai. Mae’n saff dweud y bydd y mudiad mewn dwylo saff yma ym Môn. Rydan ni’n ffodus o’n aelodau hŷn sy’n arwain ac yn cefnogi a mae’r to ifanc yn ffynnu o dan ei harweiniad nhw. Braf ydy clywed syniadau newydd y criw ifanc ac mae’n bwysig ein bod ni’n eu gwireddu nhw.

5. Joch o be’ fydd Edna’n ei gael yn y bar i ddathlu diwedd y noson a llwyddiant yr Eisteddfod, tybed?!

Yn swyddogol, J20! Ond berryg na welai ‘mo ddiwedd y noson dim ond ‘calapsho’ yn fy ngwely neu o bosib y byddai dal yng nghefn y llwyfan yn rhywle yn twtio! Ond dwi’n bendant yn edrych ymlaen i ddathlu be rydan ni’n ragweld fydd yn chwip o eisteddfod a dwi’n edrych ymlaen yn fawr i gael croesawu talentau cymru gyfan. Mi fyddan nhw’i gyd yn haeddu cael dathlu ei llwyddiannau a’r holl waith caled efo’i gilydd, a hei lwc iddyn nhw’i gyd!

Edrychwch allan i glywed gan y Llywydd Sirol, Cadeirydd Sirol ag Cadeirydd yr Eisteddfod yn nofuan! Cofiwch ymuno hefo ni ar ddiwrnod yr Eisteddfod sef yr 18 Tachwedd ar Gae Sioe Mona.