Cwestiwn ag ateb gyda Llywydd Ffermwyr Ifanc Môn!

Gofynnwyd ychydig o gwestiynau i Ellena Thomas-Jones yn yr wythnosau cyn Eisteddfod Cymru!

Lowri Hughes
gan Lowri Hughes

Nesaf ar ein rhestr o gyfweliadau Cwestiwn ag Ateb mae Ellena Thomas-Jones. Dyma beth roedd gan lywydd y mudiad yma ym Môn ei ddweud pan aethom ati!

1. Faint o gloch yr wyt yn amcan y byddi di adra o’r Eisteddfod?

Tua 1 yb!

2. Pa ddiod fydd yn dy law yn Far yr Eisteddfod erbyn diwedd y noson?

Peint o seidar oer!

3. Beth wyt yn feddwl ydi pwysigrwydd yr Eisteddfod yn y mudiad?

Dod ag aelodau o hyd a lled Cymru at ei gilydd i un lleoliad unwaith y flwyddyn i ddangos talent orau a gwneud ffrindiau newydd!

4. Pa elfen o’r diwrnod Eisteddfod yr wyt yn ei fwynhau fwyaf?

Cystadleuaeth y corau – enwedig ‘leni gan fod Catrin wedi ei hysgrifennu – edrych ymlaen i wahanol gorau ei chanu – ond ddim cystal â chôr CFfI Ynys Môn wrth gwrs!

5. Beth yw dy hoff elfen o fod yn rhan o’r mudiad hwn?

Gweld aelodau swil ifanc yn blaguro i fod yn aelodau hyderus sy’n datblygu i fod yn swyddogion sir â chael ymuno yn y bwrlwm.

Edrychwch allan at weddill ein cyfweliadau Cwestiwn ag Ateb tra ‘da ni’n edrych ymlaen at gynnal Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru ym Môn ar 18 Tachwedd!