Y Cylch: lansiad nofel ddiweddaraf Gareth Evans-Jones

Nodi Calan Gaeaf gyda lansiad nofel am gylch o wrachod!

gan Manon Wyn Williams
IMG_1723Gerwyn Williams

Ffion Dafis yn holi Gareth Evans Jones. (Llun: Gerwyn Williams)

Nofel newydd Gareth Evans-Jones (Llun: Gerwyn Williams)

Os ydych chi eisiau rhywbeth wedi ei wneud, gofynnwch i rywun prysur, meddai rhywun ryw dro.

Ac ni wn am unrhyw un prysurach na Dr Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas.

Yn ogystal â gweithio fel darlithydd yn Adran Athroniaeth a Chrefydd Prifysgol Bangor a chyd-gyfarwyddo Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, mae hefyd yn prysur wneud enw iddo’i hun fel llenor amryddawn a hynod gynhyrchiol a all droi ei law at unrhyw gyfrwng boed yn ymchwil academaidd, yn llên micro, barddoniaeth, dramâu, straeon byrion neu’r nofel. Fe gofiwch iddo gipio coron Eisteddfod Môn yn 2016, Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn yn 2019 ynghyd â’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 2019 ac yn Eisteddfod Genedlaethol AmGen 2021. Derbyniodd ei nofel gyntaf, Eira Llwyd (2018), gryn ganmoliaeth a daeth ei gyfrol, Cylchu Cymru: Llun a Llên wrth gerdded (2022), yn fuddugol yng nghategori Ffuglen Greadigol yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni. Ond nofel sy’n dwyn y teitl Y Cylch yw’r cynnyrch diweddaraf o’i bair llenyddol – nofel ddirgelwch am gylch o wrachod sy’n hanu o Fangor – ac mae hi’n stori fydd bendant yn eich swyno! A pha well noson i lansio nofel o’r fath nag ar noson Calan Gaeaf yn Neuadd Powis Prifysgol Bangor gyda murlun arswydus Ed Povey yn gefnlen berffaith.

Cafwyd sgwrs ddifyr ynglŷn â chefndir a chynnwys y nofel ynghyd â’r broses greadigol o’i llunio o dan arweiniad annwyl a chartrefol Ffion Dafis a manteisiodd Gareth ar y cyfle i ddiolch yn ddiffuant i Marred Glyn, golygydd creadigol y gyfrol ar ran Gwasg y Bwthyn, am ei chefnogaeth a’i chyfeillgarwch dros y blynyddoedd a hithau bellach newydd ymddeol o’i swydd. Cafwyd hefyd berfformiad hudolus gan Casi Wyn ynghyd â darlleniadau o’r gyfrol.

Byddai’r nofel hon yn ychwanegiad perffaith at unrhyw hosan Nadolig eleni, ond da chi, peidiwch ag oedi cyn ei phrynu – mae hi’n siŵr o hedfan oddi ar y silffoedd! Ac os ydych wedi cael y pleser o’i darllen ac yn ysu am fwy, nid oes angen digalonni, mae Gareth eisoes wedi dechrau gweithio ar ddilyniant iddi!

Ond os na allwch ddisgwyl gyn hired â hynny, beth am ddod draw i Pontio, Bangor, nos Wener, 10 Tachwedd, i lansiad Curiadau, y flodeugerdd gyntaf o lenyddiaeth LHDTC+ yn y Gymraeg a olygwyd gan Gareth Evans-Jones? Mae’r gyfrol hon yn cynnwys cyfraniadau gan 42 o wahanol lenorion ac mae’n gyfraniad hynod nodedig a gwerthfawr yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Peidiwch â cholli cyfle i fod yn rhan o noson hanesyddol – bydd croeso cynnes i bawb!