Ynys Môn i arwain y ffordd o ran cynhyrchu ynni llanw.

Cryfhau’r berthynas rhwng Ynys Môn a’r môr trwy fenter oddi ar arfordir Ynys Gybi

Dr Edward Thomas Jones
gan Dr Edward Thomas Jones

Gogledd Cymru oedd cartref i’r trydydd Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru a gynhaliwyd yn ystod mis Hydref.  Mae’r Fforwm, sy’n rhan o Raglen Iwerddon-Cymru, yn dathlu’r cydweithio rhwng y ddwy wlad mewn gwahanol feysydd.  Dechreuodd y digwyddiad nodedig yma gyda chyfarfod rhwng Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, a Tánaiste Iwerddon, Micheál Martin TD, a fu’n trafod materion o ddiddordeb i’r ddwy wlad ac yna fe ymwelwyd â gwahanol safleoedd yng Ngogledd Cymru.  Roedd hyn yn cynnwys ymweliad â pharth arddangos ynni llanw Morlais oddi ar arfordir Ynys Môn, pan agorodd Mark Drakeford AS y safle ynni yn swyddogol.

Beth yw Morlais?

Mae tyniad disgyrchiant y lleuad a’r haul ynghyd â chylchdro’r ddaear yn achosi’r llanw cynyddu a chwympo.  Mae ynni’r llanw yn trosoli cynnydd a chwymp llanw cefnforol i ddal egni cinetig a’i drawsnewid yn ffurfiau ynni eraill, yn aml yn drydan.  Mewn rhai mannau, mae llanwau yn achosi i lefelau dŵr ger y lan amrywio hyd at 40 troedfedd.  Defnyddiodd pobl yn Ewrop y symudiad hwn o ddŵr i weithredu melinau grawn fwy na 1,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae cynhyrchu ynni’r llanw yn ei ddyddiau cynnar o hyd.  Mae ynni gwynt a solar yn rhad i’w defnyddio, ond dim ond pan fydd yr haul yn tywynnu, neu’r gwynt yn chwythu y maent yn gweithio.  Mae llanwau’n rhagweladwy ac felly gall ynni’r llanw, ar y llaw arall, ddarparu llif cyson a dibynadwy o ynni o ddydd i ddydd.

Morlais, a reolir gan fenter gymdeithasol Menter Môn, yw enw’r parth datblygu ynni llanw ger Ynys Gybi.  Mae’n cwmpasu arwynebedd o 35km2 o wely’r môr, parth a ddynodwyd gan Ystad y Goron ar gyfer datblygu ynni llanw a dyma’r cynllun ynni llanw mwyaf â chaniatâd yn y DU.  Unwaith y bydd yn weithredol, bydd datblygwyr technoleg ynni llanw yn gallu gosod eu dyfeisiau yn y parth i gynhyrchu trydan glân, adnewyddadwy.  Mae gan Morlais y potensial i ddod yn un o’r parthau ynni llanw mwyaf yn y byd gyda chapasiti cynhyrchu mwyaf o hyd at 240MW.

Pam bod Morlais yn bwysig?

Mae ynni’r llanw yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy, glân ac sy’n cynhyrchu llawer llai o nwyon tŷ gwydr na thanwydd ffosil fel glo ac olew.  Felly, bydd Morlais yn chwarae rhan bwysig yn ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.  Mae effaith newid hinsawdd yn dod yn fwy amlwg bob dydd.  Un o effeithiau mwyaf amlwg newid yn yr hinsawdd yw’r newid ym mhatrymau tymhorol y llystyfiant o’n cwmpas.  Mae hyn yn cynnwys amseriad digwyddiadau biolegol pwysig megis blagur yn byrstio, ymddangosiad y dail cyntaf, blodeuo a chwymp dail.

Tan yn ddiweddar roedd prosiectau ynni adnewyddadwy yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.  Ond ers goresgyniad Rwsia o’r Wcráin, mae’r ymgyrch am ynni adnewyddadwy bellach yn flaenoriaeth diogelwch egni.  Mae gan Forlais, ynghyd â mentrau carbon isel eraill, ran bwysig i’w chwarae wrth dorri ein dibyniaeth ar genhedloedd cynhyrchu ynni gwyllt.

Nid yn unig y mae prosiectau ynni adnewyddadwy yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a gwella diogelwch ynni, ond maent hefyd yn rhoi hwb economaidd i’r ardal.  Mae hyn hefyd yn wir am Forlais.  Mae strategaethau sgiliau a chadwyn gyflenwi wedi cael eu datblygu gan Forlais i sicrhau bod buddion economaidd y datblygiad yn cael eu rhannu ar draws yr Ynys.  Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau addysgol i sicrhau bod pobl leol yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar ddatblygwyr a bod busnesau’n gwybod am y cyfleoedd, a bod ganddynt fynediad i’r gadwyn gyflenwi.

Hanes hir rhwng Môn a’r môr

Roedd yr agoriad swyddogol yn dathlu deng mlynedd o waith gan Forlais, ac mae disgwyl i’r dyfeisiau ynni llanw cyntaf gael eu gosod ar y môr yn 2026.  Mae gan Ynys Môn hanes hir o weithio gyda’r môr ac mae Morlais yn rhoi cyfle i barhau â’r traddodiad hwn drwy gynhyrchu ynni glân, gwella ein diogelwch, a sicrhau manteision economaidd ledled yr Ynys.