Pwy yw Prif Ddisgyblion Ysgol Gyfun Llangefni eleni?

Ar ddechrau’r tymor newydd, rhoddwyd y cyfle i flwyddyn 13 wirfoddoli i fod yn brif ddisgyblion.

Ysgol Gyfun Llangefni
gan Ysgol Gyfun Llangefni
IMG_0315

Prif ddisgyblion a phrif swyddogion

IMG_0311

Prif Swyddog Cai (Bara!)

Prif ddisgybl Iori

IMG_0313

Prif ddisgybl Kaitlyn

IMG_0310

Prif swyddog Jac

IMG_2077

Gwion yn canu yn Eisteddfod Bodffordd

Prif Ddisgyblion 

Ar ddechrau’r tymor newydd, rhoddwyd y cyfle i bawb ym mlwyddyn 13 wirfoddoli i fod yn brif ddisgyblion a swyddogion yr ysgol. Swyddogaeth y prif ddisgyblion a’r swyddogion ydy cynrychioli’r ysgol yn y gymuned a rhoi llais i ddisgyblion iau’r ysgol. Daeth y canlynol i’r brig…

Mae Iori yn un o’r prif ddisgyblion yma yn Ysgol Gyfun Llangefni. Mae’n astudio Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Mathemateg bellach a’r BAC, felly’n dipyn o Fathemategydd! Ar ôl y flwyddyn hon mae Iori’n gobeithio mynd i’r Brifysgol i astudio Ffiseg gyda’r gobaith o fod yn Ffisegydd neu’n Beiriannwr. Yn ei amser rhydd mae’n mwynhau chwarae gemau cyfrifiadurol, bocsio, a mynd i’r gampfa. Mae o hefyd yn mwynhau cymdeithasu a threulio amser gyda’i deulu. Fel prif ddisgybl mae’n anelu tuag at arwain y clwb gwyddoniaeth a chynnal sesiynau adolygu i helpu disgyblion yr ysgol gyflawni eu potensial.

Y prif ddisgybl arall ydy Kaitlyn, sy’n astudio Cemeg, Bioleg, Addysg Gorfforol a’r BAC. Mae hi’n gobeithio astudio Fferylliaeth yn y Brifysgol er mwyn bod yn fferyllydd. Yn ei hamser rhydd, mae Kaitlyn yn mwynhau chwarae pêl-rwyd, karate a darllen llyfrau. Un o’i phrif amcanion fel prif ddisgybl ydy cynnal sesiynau adolygu i flwyddyn 10 ac 11.

Prif Swyddogion

Cai, neu Cai Bara i’w gyfeillion, ydy un o’r prif swyddogion. Mae’n astudio Addysg Gorfforol, Technoleg Ddigidol, Mathemateg a’r BAC. Mae’n bwriadu mynd i’r Brifysgol ym Mangor i astudio Addysg Gorfforol i fod yn athro. Yn ei amser rhydd mae’n mwynhau chwarae rygbi yn bennaf a mwynhau gwylio ffilmiau, chwarae gemau fideo a darllen llyfrau. Fel un o’r prif swyddogion, mae o eisiau cefnogi’r adran Addysg Gorfforol a chynnal nifer o weithgareddau amrywiol i’r disgyblion.

Prif swyddog arall ydy Jac. Mae’n astudio Ffiseg, Llythrennedd Ariannol, Mathemateg a’r BAC, ac yn gobeithio bod yn Gyfrifydd ar ôl gadael yr ysgol. Mae o’n mwynhau chwaraeon fel rygbi a phêl-droed yn ei amser rhydd, yn ogystal â chymdeithasu gyda’i ffrindiau. Fel prif swyddog, mae Jac yn gobeithio rhannu llais disgyblion o bob oed yn yr ysgol.

Ar hyn o bryd mae prif swyddog Gwion yn astudio Mathemateg, Astudiaethau Busnes a’r BAC. Mae Gwion yn dymuno astudio Economeg yn y brifysgol flwyddyn nesa. Diddordebau Gwion ydy chwaraeon, pêl droed, canu a chwarae gitâr. Mae hefyd yn mwynhau cymdeithasu gyda’i ffrindiau, yn enwedig mynd i’r sinema gyda nhw. Fel prif swyddog, dymunai helpu’r adran gerdd gyda’r Eisteddfod ysgol eleni. Hefyd, hoffai dechrau clwb badminton, a chefnogi’r ysgol i fod yn le sy’n cynnig cyfleoedd i bawb.

Dymuniadau gorau iddynt oll, a chofiwch gysylltu gyda’r prif ddisgyblion a’r swyddogion os oes gennych unrhyw gwestiwn neu gais i helpu yn y gymuned!