Canlyniad gwych i Seindorf Beaumaris

Llwyddodd Seindorf Beaumaris i sicrhau canlyniad penigamp ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ynysoedd

Seindorf Beaumaris
gan Seindorf Beaumaris

Llwyddodd Seindorf Beaumaris i gipio trydydd safle yn Adran Gyntaf Pencampwriaethau Bandiau Pres Ynysoedd Prydain yn gynharach ym mis Medi.

Roedd Beaumaris, o dan arweiniad Bari Gwilliam, yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth yn dilyn eu llwyddiant ym Mhencampwriaeth Cymru yn Neuadd Brangwyn, Abertawe yn gynharach yn y flwyddyn.

“Roedd yn ganlyniad hollol annisgwyl gan mai dyma ein blwyddyn cyntaf yn cystadlu ar y lefel yma,” meddai Bari. “Dwi mor falch o’r holl aelodau ac yn ddiolchgar am yr holl waith caled yn paratoi at y gystadleuaeth.”

Dyma’r pedwerydd blwyddyn o’r bron i Beaumaris gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Prydain yn Cheltenham wrth iddyn nhw sicrhau dyrchafiad o’r Bedwaredd Adran i’r Adran Gyntaf.

Mae eu perfformiad o St James’s A New Beginning,  gwaith gan Philip Harper, i’w glywed yma.