Gyda gweddill y wlad yn taflu golygon ar Galan Gaeaf, tydi hi ddim yn amser am wrachod a bwganod ym Môn nes fydd Ffair orau’r flwyddyn wedi bod – Ffair Borth!
Yn draddodiadol, mae rhywun yn cysylltu Ffair Borth gyda hanes cyfoethog; gwerthiant y ceffylau a’r anifeiliad, man cyfarfod hen ffermwyr a ffrindiau oes ers 1680, ond yn bennaf oll… gyda thywydd glawog, diflas!
Mae’n wir fod yr hen ddywediad ‘Mai’n dywydd Ffair Borth!’ ar dafod nifer o Fonwysion ers blynyddoedd bellach, ond nid dyna’r achos eleni wrth lwc.
Gwelwyd miloedd heddiw yn manteisio ar y tywydd sych a mwyn i heidio i ganol bwrlwm Borth a gwario rhyw geiniog neu ddwy….wel, llawer mwy na hynny erbyn hyn!!
Gyda’r ffair yn ymestyn o Faes Parcio Waun draw at y topiau wrth Westy’r Fictoria, roedd rhywbeth ar gyfer plant bach, pobl ifanc a phlant mawr!
Gwelwyd ceir wedi’w parcio cyn belled ag Ysgol David Hughes a sawl dreifar tacsi neu fws yn rhwystredig wrth bydru ymlaen trwy’r traffig trwm, ond dyna ni! Mae rhywun yn derbyn mai dim ond unwaith y flwyddyn mae’r sŵn byddarol, y lliwiau llachar a’r arogl chips a mŵg smôcs a vapes yn dod i strydoedd Borth….ac yn ddistaw bach, fel mam i ddau o blant…mae’n rhaid diolch i’r drefn am hynny!!