Un da di Phil!
Croeso i flog byw Môn360, yn fyw o Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Ynys Môn 2023. Mae’r llwyfan wedi’i osod yn barod at ddiwrnod gwerth chweil o gystadlu ym Mhafiliwn Llaethdy Mona yng Nghae Sioe Mona.
Y cystadlu yn dechrau am 11 bore ma – croeso cynnes i bawb.
Criw penmynydd yn cystadlu yn parti llefaru
Ymarfer gefn llwyfan
Manon Wyn sy’n cadw trefn ar y cystadlu o’r llwyfan erbyn hyn
🌟 Canlyniad – Creu TikTok neu Reel
Katie Dewar – 2il
Tom Wyn – 3ydd
🌟 Canlyniad – Gwaith Metel
Sion Huw a Tom Wyn – 3ydd
Rhaglen y dydd.
‘Da ni ar gystadleuaeth rhif 5 erbyn hyn.
Dyma aelod arall o Clwb Bodedern, Ynyr Williams yn cystadlu yn y llefaru o dan 30!
Gwenwch! 📸
Dydi hi’m yn ’Steddfod heb Phil Hen a’i gamera! 🌟
Twm Tudor ar y llwyfan erbyn hyn 🎶
Dyma Carwyn Rowlands o clwb Bodedern yn dod i’r llwyfan i yr cystadleuaeth gyntaf!