gan
Plant Ysgol Llanfairpwll
Wythnos diwethaf aeth blwyddyn 3 a 4 draw i Nant y Pandy yn Llangefni. Pwrpas y daith oedd mynd i weld byd natur a gwneud gweithgareddau. Gwnaethom wynebau hapus allan o fyd natur! Cafwyd Helfa Natur llawn hwyl a braf ofnadwy oedd gweld gymaint o wiwerod coch!
Roedd yn drip bendigedig a’r haul yn gwenu drwy’r dydd.
Am hwyl!