Pa mor wydn yw cymunedau Ynys Môn?

Mae data newydd yn datgelu sut mae cymunedau Ynys Môn yn cymharu ag eraill ledled Cymru o ran asedau

Dr Edward Thomas Jones
gan Dr Edward Thomas Jones

Mae’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (Building Communities Trust, BCT) yn sefydliad sy’n ceisio cryfhau cymunedau a chefnogi pobl sy’n gweithredu i wneud eu hardaloedd yn lleoedd gwell i fyw ynddynt.  Er mwyn helpu i arwain ei waith, lansiodd y BCT ddau fynegai newydd ym mis Medi – Mynegai Asedau Cymunedol Cymru (MACC) a Mynegai Gwytnwch Cymunedol Cymru (MGCC).  Mae’r mynegeion ar wahân, ond cyflenwol, hyn yn rhoi cipolwg unigryw ar gymunedau Cymru ac yn amlygu gwahaniaethau yn eu hasedau a’u gwytnwch.

Mynegai Asedau Cymunedol Cymru (MACC)

Datblygwyd MACC i gymharu’r graddau y mae cymunedau’n wynebu heriau sy’n gysylltiedig ag isadeiledd gwael, ynysigrwydd cymharol, a lefelau isel o gyfranogiad.  Mae’n cyfuno cyfres o ddangosyddion o dan dri pharth: asedau dinesig, cysylltedd a chymuned weithgar ac ymgysylltiol.

  • Mae’r parth asedau dinesig yn mesur presenoldeb asedau cymunedol, dinesig, addysgol a diwylliannol allweddol. Dyma’r asedau sy’n darparu pethau i’w gwneud a lle i gwrdd yn aml, am ddim neu heb lawer o gost, sy’n bwysig i ba mor gadarnhaol y mae cymuned yn teimlo am ei hardal.
  • Mae’r parth cysylltedd yn mesur cysylltedd ac yn ystyried, ymhlith pethau eraill, a oes gan bobl yn yr ardal fynediad at wasanaethau allweddol, o fewn pellter teithio rhesymol, ansawdd cludiant cyhoeddus ac isadeiledd digidol.
  • Mae’r parth cymuned weithgar ac ymgysylltiol yn mesur lefelau cyfranogiad gweithredol mewn bywyd cymunedol a dinesig. Mae’n ystyried a yw elusennau yn weithgar yn yr ardal ac a yw pobl yn cymryd rhan ym mywyd dinesig ehangach eu cymuned.

Drwy gyfuno’r tri pharth hyn, cyfrifir MACC i fesur cryfder cymunedau a phresenoldeb isadeiledd cymunedol.  Mae’n mesur dwysedd (gan gymryd i ystyriaeth nifer y bobl sy’n byw yn yr ardal) beth bynnag fo’r gyfradd defnydd neu’r ystod o gyfleoedd sy’n deillio o fodolaeth yr asedau dinesig.  Mae safle 1 yn dynodi darpariaeth isel o asedau cymunedol, tra bod safle 410 yn dynodi darpariaeth gryfach o asedau cymunedol.

O’r 410 o gymunedau Cymru a ddadansoddwyd, roedd Caergybi yn safle 33 – ymhlith yr isaf yng Nghymru gyfan o ran asedau cymunedol.  Roedd y safle hwn yn cael ei yrru, yn rhannol, gan ddiffyg asedau dinesig yn yr ardal o ystyried maint y boblogaeth (yn ôl ystadegau gan Lywodraeth Cymru, mae Caergybi yn cyfrif am 15% o boblogaeth Ynys Môn).  Sgoriodd Caergybi hefyd yn isel o ran cysylltedd ond roedd yn agos at gyfartaledd Cymru o ran cymuned weithgar ac ymgysylltiol.  Roedd cymuned Llanfairpwllgwyngyll a Phorthaethwy ymhlith yr uchaf yng Nghymru o ran asedau cymunedol, gyda safle o 392 (allan o 410).  Mae’r bobl yn yr ardal hon yn mwynhau mynediad at asedau dinesig, gwasanaethau allweddol ac isadeiledd digidol, a chludiant cyhoeddus o safon.

Mynegai Gwytnwch Cymunedol Cymru (MGCC)

Cyfunir canlyniadau MACC â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC), a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, i gyfrifo MGCC.  Cymunedau gwydn yw’r rhai sydd â mynediad at ystod o asedau diriaethol ac anniriaethol a ddefnyddir i wella lles unigolion a chymunedau.  Gall pobl gael mynediad at yr asedau hyn i alluogi cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol a hamdden, yn ogystal â darparu cefnogaeth hanfodol mewn sefyllfaoedd anodd – boed yn rhai sydyn ac annisgwyl neu dymor hir a chronig eu natur.

Roedd Caergybi ymhlith yr isaf yng Nghymru o ran gwytnwch, gyda safle o 29 (allan o 410).  Ar y llaw arall, roedd cymuned Llanfairpwllgwyngyll a Phorthaethwy ymhlith yr uchaf gyda safle o 397.  Mae safle isel Caergybi yn cael ei yrru gan ei safle MACC a MALlC gwan, sy’n amlygu’r heriau a wynebir gan bobl Caergybi, hyd yn oed o’u cymharu ag eraill yng Nghymru.  Yn ogystal â chael mynediad at asedau cymunedol, mae lefelau isel o amddifadedd yn Llanfairpwllgwyngyll a Phorthaethwy sy’n golygu bod gan yr ardal safle uchel.

Sut gallwn ni helpu cymunedau llai gwydn?

Mae ardaloedd llai gwydn, fel Caergybi, yn profi ynysigrwydd cymharol, ychydig o asedau cymunedol o ystyried maint eu poblogaeth, ochr yn ochr ag amddifadedd sylweddol.  Gall pobl sy’n byw mewn ardaloedd o’r fath ddisgwyl byw bywydau byrrach, llai iach, na’r cyfartaledd ledled Cymru.  Mae llai o dai yn cael eu hadeiladu yn y cymunedau hyn, gan adlewyrchu canfyddiadau datblygwyr eiddo bod llai o bobl eisiau byw mewn ardaloedd llai gwydn.

O ystyried y materion hyn, mae angen gweithredu’n bendant i fynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan ardaloedd llai gwydn.  Dyma rai awgrymiadau ar yr hyn sydd angen digwydd i wella bywydau’r rhai sy’n byw mewn cymunedau o’r fath:

  1. Mae angen i gynllunwyr lleol annog adeiladu tai mewn ardaloedd llai gwydn a sicrhau bod ganddynt fynediad da at gludiant a darpariaeth isafswm o asedau cymunedol.
  2. Mae angen i lunwyr polisi sicrhau bod y rhai sy’n byw mewn ardaloedd llai gwydn yn gallu cael gafael ar gludiant ac isadeiledd digidol, a’u bod yn gallu eu defnyddio, drwy ddulliau cost isel a bod ganddynt fynediad at wasanaethau allweddol.
  3. Rhaid i Llywodraethau ar bob lefel sicrhau bod proses syml, a chyllid ar gael, i gymunedau gymryd perchnogaeth o asedau dinesig a’u cefnogi i ddarparu gwasanaethau allweddol.
  4. Mae angen i’r rhai sy’n darparu cefnogaeth ariannol (llywodraethau neu elusennau) gydnabod yr heriau unigryw a wynebir gan ardaloedd llai gwydn a bod y cymunedau hynny’n cael eu cyfran deg o adnoddau.

Mae’r mynegeion a gyfrifwyd gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn amlygu’r cymunedau hynny yng Nghymru sydd angen y gefnogaeth fwyaf.  Er bod y cymunedau hyn, fel Caergybi, yn wynebu heriau, mae camau y gellir eu cymryd i’w gwneud yn fwy gwydn.