gan
Plant Ysgol Llanfairpwll
Ddoe, daeth Ben Dant i’r ysgol i ymweld â blwyddyn 2! Ahoi!
Daeth Ben Dant gyda Gruff o raglen Cyw i ffilmio hefo blwyddyn 2. Roeddynt yn gwneud gwaith celf ac ail-gylchu ar gyfer rhaglen deledu Ben Dant sef ‘Bendibwmbwls’.
Cafodd blwyddyn 2 heulwen braf a hwyl yn chwarae a chanu. Dywedodd Enlli ac Anni Jo “Roedd o yn hwyl a sbri!! ”
Diolch i’r criw ffilmio, Gruff a Ben Dant am ddod draw. Ahoi!!