Taith i’r Traeth!

Trip arbennig plant yr ysgol i Sŵ Môr

gan Plant Ysgol Llanfairpwll

Wythnos diwethaf, aeth blwyddyn 5 a 6 Ysgol Llanfairpwll ar daith i Frynsiencyn.

Pwrpas y daith oedd i godi ysbwriel ar y traeth a dysgu sut i warchod yr amgylchedd a’r arfordir.

Cawsom groeso mawr gan staff Sŵ Môr a dysgom lawer am sut i barchu’r amgylchedd a gwarchod creaduriaid y Fenai.

Roedd hi’n hwyl cael defnyddio ffyn a bagiau i lanhau’r traeth a braf oedd mynd ar y bws mewn glaw a heulwen.

Diolch i Sŵ Môr Môn am y cyfle a chofiwch roi eich ysbwriel yn y bin!