‘Ro’n i’n Arfer Bod yn Rhywun’

Yr actores amryddawn o Fôn yn lansio hunangofiant

gan Teleri Mair Jones

Yn groes i’r hyn y mae ei hunangofiant yn ei gyfleu…..mi allwn dystio, yn ein llygaid ni’r Monwysion, fod Marged Esli heb os yn dal i fod yn rhywun!

Mae hi’n enw a wyneb cyfarwydd ar aelwydydd yr ynys, ac yn unigolyn sydd wedi byw bywyd llawn dop…a hynny,  heb anghofio am eiliad ei gwreiddiau yma ym Môn. Yn ‘seleb’ (ond yn casau’r cysyniad!), yn diwtor, yn dalent ond yn fwy na dim yn ffrind oes i nifer o drigolion yr ynys.

Braf oedd gweld Canolfan Glanhwfa, Llangefni dan ei sang neithiwr wrth i Marged gyflwyno ei hunangofiant newydd ‘Ro’n i’n Arfer Bod yn Rhywun.’

Fe’n tywyswyd trwy arlwy’r noson yn gwbl gelfydd a chartrefol gan Nia Thomas y BBC, a difyr iawn oedd clywed Marged yn paentio darlun o’i bywyd, yn rhannu ei phrofiadau chwerw a melys ac yn rhoi blas i ni o’r hun sydd rhwng cloriau’r hunangofiant.

Pleser hefyd oedd clywed datganiad gan Hogia Bodwrog, y parti adloniant sy’n hanu o ardal enedigol Marged sef Llandrygarn.

Da chi, mynnwch eich copi o hunangofiant diweddaraf Gwasg y Bwthyn – edrychaf ymlaen i’w ddarllen!