Paratoi i Ddathlu Pen-blwydd Ysgol Gymraeg Morswyn

Yr ysgol yn barod i ddathlu 50 mlynedd.


Dros y penwythnos, bu cynrychiolaeth o’r Cyngor Ysgol mewn cyfarfod cyhoeddus yn yr ysgol i drafod pen-blwydd mawr Ysgol Gymraeg Morswyn yn 2024.

Trafodwyd nifer o syniadau diddorol o sut i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu’r ysgol.

Mae plant y Cyngor Ysgol yn edrych ymlaen i fod yn rhan o’r dathliadau.

Dywedodd Marged, ein cynrychiolydd Cyngor Ysgol o flwyddyn 4 oedd yn y cyfarfod; ‘Wnes i fwynhau bod yn y cyfarfod. Roedd syniadau da yn cael ei trafod.’

Ymhelaetha Louis o flwyddyn 4 oedd hefyd yn y cyfarfod trwy ddweud; ‘Rydan ni am greu llyfr lloffion er mwyn edrych yn ôl mewn amser.’

Mae ganddom ni gais i’r cyhoedd os all unrhyw un ein helpu os gwelwch yn dda?

Gofynnwn yn garedig i unrhyw un sydd yn hapus i rannu lluniau neu atgofion o’i hamser yn yr ysgol i wneud hynny drwy ebostio dathlumorswyn@gmail.com

Bydd y cyfarfod nesaf i drafod y dathliadau ar nos Lun, Tachwedd 13eg am 3:45 a hynny yn yr ysgol. Croeso i bawb!

Ymunwch â ni am flwyddyn yn llawn dathliadau a hel atgofion!