Croesawu pawb yn ôl

Adeilad newydd Ysgol y Graig ymhen blwyddyn!

gan Ffrindiau Y Graig

Braf yw gweld holl blant a staff Ysgol Y Graig yn ôl wedi’r gwyliau haf.

Mae pawb yn edrych ymlaen at flwyddyn arall!

Mae yna hefyd sôn mawr am yr adeilad newydd fydd yn agor mewn blwyddyn.

Dyma flwyddyn olaf y Cyfnod Sylfaen yn yr adeilad presennol cyn trosglwyddo i’r adeilad newydd sbon fis Medi 2024 gobeithio.

Pob hwyl i bawb yn y flwyddyn i ddod!